Cefndir Canllaw Online:
Honnir bod Syr Francis Bacon wedi dweud “grym yw gwybodaeth”
a’r llwybr i wybodaeth yw hysbysiaeth. Amcan Canllaw
Online yw cyflwyno gwell hysbysiaeth i’r bobl ifanc
ledled Cymru, gan arwain at well dewisiadau bywyd.
Mae Canllaw Online Cyf, sefydliad ddim am elw a hefyd elusen
gofrestredig, yn cynnig nifer o wasanaethau dwyieithog sy’n
gysylltiedig â dosbarthu hysbysiaeth drwy gyfres o fentrau
unigryw i bobl ifanc a darparwyr gwybodaeth i bobl ifanc.
Er iddo gael ei sefydlu, mae mwy o hanes y tu ôl i’r
enw “Canllaw Online”. Dechreuodd y prosiect o
ganlyniad i ymweliad astudio â’r Alban ym 1983,
lle’r oedd y fenter “Young Scot” ar fin
cael ei lansio.
Cydnabuwyd pwysigrwydd gwasanaeth hysbysiaeth wedi’i
anelu at bobl ifanc yn benodol, a datblygwyd prosiect tebyg
yng Nghymru, gan ddefnyddio arian a ddaeth ar gael o’r
Swyddfa Gymreig yn sgîl y Flwyddyn Ieuenctid Ryngwladol.
Sefydlwyd y fenter Canllaw Online, yn cynnwys pobl ifanc,
gweithwyr ieuenctid a golygydd. Cyhoeddwyd cyfres o dri llawlyfr
yn Gymraeg ac yn Saesneg, yn darparu hysbysiaeth i bobl ifanc.
Seiliwyd y fenter ar egwyddorion Gwaith Ieuenctid.
Yn ddiweddarach, erbyn y 1990au cynnar, yr oedd y Swyddfa
Ieuenctid Genedlaethol yn Lloegr wedi dechrau cynllun ‘Siop
Hysbysiaeth’, ar ôl ymchwilio i’r gwasanaethau
hysbysiaeth a oedd ar gael i bobl ifanc mewn gwledydd eraill,
a phenderfynu bod angen strategaeth genedlaethol ar gyfer
cyflwyniad hysbysiaeth ledled Prydain.
Y bwriad y tu ôl i’r fenter Siop Hysbysiaeth
oedd rhoi cyfle i bobl ifanc gael mynediad i hysbysiaeth a
chyngor mewn amgylchedd cyfeillgar i ddefnyddwyr, gyda staff
hyfforddedig, i sicrhau na fyddai unrhyw warth yn gysylltiedig
ag ymholiadau posibl ar ran pobl ifanc. Sefydlwyd cynlluniau
peilot noddedig yn Bradford, Nottingham ac Accrington. Ym
1993 cydnabu arolygiad AEM waith y fenter.
Ym 1993, dechreuwyd casglu cronfa ddata o hysbysiaeth i’w
defnyddio gan Siopau Hysbysiaeth, gan arwain at system gyfrifiadurol
erbyn diwedd y 1990au. Yr oedd yr Asiantaeth Ieuenctid Genedlaethol,
gyda chyllid y Lotri Genedlaethol, yn gallu datblygu system
o hybysiaeth graidd a fyddai ar gael drwy ddisgiau hyblyg
i html.
Yng Nghymru, cefnogai Asiantaeth Ieuenctid Cymru waith yr
Asiantaeth Ieuenctid Genedlaethol gan arloesi gwasanaethau
hysbysiaeth i bobl ifanc. Tuag at ddiwedd y 1990au, cydnabuwyd
bod angen sefydliad annibynnol.
Ym mis Medi 1999, sefydlwyd Canllaw Online Cyf yn sefydliad
nad oedd yn bod i wneud elw, gyda’r dyhead o ddatblygu
a chefnogi gwasanaethau hysbysiaeth cynhwysfawr i bobl ifanc
yng Nghymru.
Gwerthoedd ac Egwyddorion Craidd Canllaw Online:
Nod Canllaw Online yw dod â gwell dewisiadau bywyd
i bobl ifanc ledled Cymru drwy ddarparu mynediad i wasanaethau
hysbysiaeth o ansawdd. Cyflawnir hyn drwy well gwasanaethau
cyflwyno hysbysiaeth i hybu ymwybyddiaeth a datblygiad rhyng-ddiwylliannol,
a symudedd, cyfranogiad, mynegiant a chydraddoldeb ieuenctid.
Adlewyrchir a thanategir y gwerthoedd a’r egwyddorion
craidd hyn gan Ddatganiad Cwricwlwm Gwaith Ieuenctid ar gyfer
Cymru (1993), Siarter Wybodaeth Ieuenctid Ewrop, Papur Gwyn
Ewrop ar Ieuenctid (2001) a Chytundeb y Cenhedloedd Unedig
ar Hawliau’r Plentyn (a fabwysiadwyd yn y DU ym 1991),
sy’n cefnogi hawl pobl ifanc i wybodaeth.
Mae Canllaw Online yn ymrwymedig i ymgynghori â phobl
ifanc ledled Cymru a’u cynnwys ym mhob cyfnod o’r
broses hysbysiaeth drwy gyfrwng cyrsiau preswyl rheolaidd,
sesiynau grwp ffocws, arolygon a gweithgareddau.
Sefydliad dwyieithog yw Canllaw Online, sy’n cynnig
gwybodaeth yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae’r Cynllun Iaith
Gymraeg gwirfoddol a fabwysiadwyd gan Canllaw Online wedi’i
gymeradwyo gan y Bwrdd Iaith Cymraeg yn unol â Deddf
Iaith Gymraeg (1993).
Gyda llywodraeth wedi’i datganoli, a chyfleoedd ariannu
strwythuredig, dwyieithrwydd a chymdeithas aml-ddiwylliannol,
mae Cymru yn fan lansio gwych ar gyfer mentrau cyflwyno hysbysiaeth
a chyfleodd y mae ar bobl ifanc eu hangen er mwyn gwneud gwell
dewisiadau bywyd, a Canllaw Online ydy’r sefydliad i
wireddu’r cynlluniau hyn.
Nodau Strategol Canllaw Online:
- Polisi a Phartneriaeth Strategol.
Nod Canllaw Online yw gweithio ar lefel polisi a strategaeth,
gan lunio, cefnogi a datblygu gwasanaethau hysbysiaeth i
bobl ifanc yng Nghymru yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
- Cyfathrebu a hysbysiaeth
Nod Canllaw Online yw cyfathrebu a hysbysu pobl ifanc a
darparwyr gwasanaethau hysbysiaeth i bobl ifanc ledled Cymru.
- Ymchwil
Nod Canllaw Online yw ymchwilio anghenion gwybodaeth pobl
ifanc a darparwyr gwasanaethau hysbysiaeth i bobl ifanc
yn drylwyr ledled Cymru.
- Ymgynghori
Nod Canllaw Online yw darparu gwasanaethau ymgynghori i
bobl ifanc a darparwyr gwasanaethau hysbysiaeth i bobl ifanc
ledled Cymru.
- Hyfforddiant
Nod Canllaw Online yw darparu hyfforddiant i bobl ifanc
a darparwyr gwasanaethau hysbysiaeth i bobl ifanc ledled
Cymru.
- Safonau Ansawdd
Nod Canllaw Online yw cefnogi a datblygu mesurau sicrhau
ansawdd parthed gwasanaethau hysbysiaeth i bobl ifanc ledled
Cymru.
- Ewropeaidd a Rhyngwladol
Nod Canllaw Online yw cefnogi cyfranogiad pobl ifanc a darparwyr
gwasanaethau hysbysiaeth i bobl ifanc a’u cynnwys
o fewn cyfleoedd Ewropeaidd a rhyngwladol ehangach.
- Busnes Newydd
Nod Canllaw Online yw archwilio a sicrhau cyfleoedd newydd
ar gyfer darparu gwasanaethau hysbysiaeth i bobl ifanc yng
Nghymru.
|
|
Gwaith Partneriaeth
Mae Canllaw Online yn awyddus i weithio gyda chynifer o asiantaethau
ac unigolion arbenigol ag sy’n bosibl er mwyn sicrhau
bod yr hysbysiaeth a ddarperir ganddo mor fanwl gywir a diweddar
ag sy’n bosibl. Wrth ddatblygu a chyflwyno ei wasanaethau
hyd yn hyn, mae Canllaw Online wedi sefydlu perthynas waith
ag asiantaethau/cyrff arbenigol o dan bob pennawd ym Mynegai
Hysbysiaeth Canllaw Online.
Er enghraifft: Gwasanaethau Ieuenctid Awdurdodau Lleol, Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, Asiantaeth Ieuenctid Cymru, CWVYS, Grwp
Prif Swyddogion Ieuenctid, Partneriaethau Pobl Ifanc (PPI),
Yr Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol, Ymddiriedolaeth Tywysog Cymru,
ACAS, ELWA, RSPCA, Lonely Planet, YHA Cymru, Connect, Ysbyty
Brenhinol Gwent, Cancer Research UK, Meningitis Cymru, Shelter
Cymru, Funky Dragon, Gwasanaethau Cyfreithiol Cymunedol, Cyngor
Defnyddwyr Cymru, Gwasanaethau Cynghori Credyd Defnyddwyr,
Cyngor Chwaraeon Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru.
Cyflawniadau & Uchelgeisiau Canllaw Online:
Gan dargedu pob person ifanc, a defnyddio cyfuniad o gyfarpar
a methodoleg fodern gyda phlatfformau traddodiadol, bwriad
Canllaw Online yw gwneud hysbysiaeth yn hygyrch i holl bobl
ifanc Cymru, gan mai gyda gwybodaeth daw’r gallu i wneud
penderfyniad deallus.
Llwyddodd Canllaw Online i ddosbarthu y Prosiect “Entitlement”
Canllaw Online rhwng Ionawr 2001 a Medi 2004 ar ran y Cynulliad
Cenedlaethol Cymru.
Mae Canllaw Online yn ymglymedig mewn nifer o fentrau gwahanol,
yn gynnwys DOETH1520, CREDU, & Enlightening. Am fwy o
wybodaeth ar y mentrau cyffroes yma, cliciwch ar yr adran
berthnasol ar y dudalen flaen www.canllaw-online.com
Ar gyfer gwybodaeth o’r ansawdd orau i bobl ifanc yn
arbennig, ewch i www.wise1520.info
|