datblygu a chefnogi gwasanaethau gwybodaeth i bobl ifanc
hafan ynglyn a canllaw online tim canllaw online gwerthoedd ac Egwyddorion Craidd swyddi mentrau eraill
cysyllta ni cysylltiadau telerau ac amodau polisi preifatrwydd English
 

 

 

 

Y SECTOR CYHOEDDUS/PREIFAT YN CYFUNO I GYFLWYNO MENTER GWERTH MILIYNAU O BUNNOEDD, SY’N CREU RHWYDWAITH O 82 O LABORDAI DIGIDOL AR GYFER POBL IFANC YM MHOB RHAN O GYMRU

Cafodd CREDU, prosiect gwerth miliynau o bunnoedd a grëwyd gan Canllaw Online a Fujitsu Services i ddarparu 82 o labordai digidol ar hyd a lled Cymru, ei lansio gan Andrew Davies, y Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd a Thrafnidiaeth, ddydd Gwener 10 Medi yn swyddfa Canllaw Online yng Nghaerffili.

Wrth lansio’r prosiect pwysig hwn, dywedodd Andrew Davies: “Bydd CREDU a’r rhwydwaith o labordai digidol yn rhoi’r cyfle i bobl ifanc feithrin sgiliau TGCh hanfodol, sy’n hollbwysig i’r broses barhaus o drawsnewid Cymru yn economi gwerth uchel sy’n seiliedig ar wybodaeth.”

“Yn ogystal, y prosiect cyffrous ac arloesol hwn yw’r ddwy filfed sydd wedi cael cymorth gan raglen lwyddiannus Cronfeydd Strwythurol Ewrop. Mae’r grant Amcan 1 o £9 miliwn ar gyfer y prosiect hwn yn dod â chyfanswm y Grantiau Ewropeaidd a ddyfarnwyd i £1 biliwn.”

“Ynghyd â chyllid cyfatebol gan y sector cyhoeddus a phreifat, mae dros £2.3 biliwn bellach wedi’i fuddsoddi yng Nghymru dros y pedair blynedd diwethaf drwy’r Rhaglen Cronfeydd Strwythurol yn unig. Mae’r buddsoddi sylweddol hwn wedi creu a diogelu dros 72,000 o swyddi yng Nghymru gan arwain at ffyniant, cynyddu cyfleoedd a thrawsnewid cymunedau a oedd unwaith yn cael eu hystyried yn wan yn economaidd.”

“Mae heddiw yn garreg filltir go iawn i Gymru, pobl ifanc Cymru a dyfodol Cymru.”

Gwasanaethau Gwybodaeth Strategol ar gyfer Pobl Ifanc

Mae CREDU, prosiect Ieuenctid Digidol Cymru, yn fenter genedlaethol i greu gwasanaeth gwybodaeth digidol gan bobl ifanc ar draws Cymru ac ar eu cyfer. Nod CREDU yw sicrhau bod pobl ifanc yn cael offer cyfrifiadurol, porth gwybodaeth a chyfleoedd i feithrin sgiliau, yn ogystal â gwella’r cynlluniau a’r lleoliadau y maent yn gweithio ynddynt eisoes. Y bwriad yw sicrhau bod manteision CREDU ar gael i bob person ifanc mewn amgylchedd y maent eisoes yn gyffyrddus ynddo, fel nad ydynt yn teimlo dan anfantais neu dan fygythiad.

Bydd y labordai’n cynnwys y dechnoleg ddiweddaraf megis cyfrifiaduron â chysylltiad cyflym â’r rhyngrwyd/band eang, camerâu digidol, camerâu fideo, argraffwyr a sganwyr lliw, offer fideo-gynadledda, a chyfrifiaduron llaw a gliniaduron symudol. Bydd modd addasu’r rhain ar gyfer anghenion arbennig a bydd y meddalwedd diweddaraf ar gael i gyd-fynd â nhw. Bydd pobl ifanc a’u cynorthwywyr yn cael cyfle i ddatblygu eu sgiliau i’w galluogi i fanteisio ar botensial llawn y technolegau newydd, a bydd modd iddynt gyfrannu cynnwys digidol at borth arbennig i bobl ifanc sy’n cwmpasu Cymru gyfan.

Gallu Gwaith Ieuenctid

Bydd y rhaglen yn gwella ac yn ehangu ystod o wasanaethau ieuenctid, gan gynnwys moderneiddio’r ffordd y mae pobl ifanc yn cael gwybodaeth sy’n berthnasol iddynt, ac yn creu a rhannu’r wybodaeth honno.

“Nid newid yr hyn y mae canolfannau gwasanaethau ieuenctid yn ei wneud yw’r nod, ond ei wella. Wrth i bobl ifanc a staff feithrin sgiliau newydd, byddant yn gallu llunio eu dyfodol eu hunain. Bydd canolfannau lleol yn gallu cynhyrchu eu gwybodaeth eu hunain sy’n berthnasol i’r ardal leol, mewn amrywiaeth o gyfryngau, gan wella ac ehangu eu hapêl i bobl ifanc.” Elise Stewart, Cyfarwyddwr, Canllaw Online.

Bydd CREDU yn gymorth i greu gwasanaethau cynhyrchu gwybodaeth y mae’n hawdd i bobl ifanc fynd atynt ac sydd, o safbwynt y person ifanc, yn cynnig ystod o gyfleoedd i gael mynediad at ffynonellau gwybodaeth newydd a’u datblygu. Bydd staff y labordai digidol yn gallu cynnig gwasanaeth rhyngweithiol, ymarferol a difyr i bobl ifanc ynghyd â’r ystod ddiweddaraf o offer Technoleg Gwybodaeth er mwyn iddynt archwilio sut y gallant wella eu sgiliau eu hunain, creu syniadau ar gyfer hunangyflogaeth, rhyngweithio ag asiantaethau cymorth a’u cyfoedion a’r gymuned gyfan.

Yn rhan o’r strategaeth hon, mae nifer o labordai digidol CREDU yn cael eu datblygu ar draws Cymru. Bydd pobl ifanc yn gallu cael mynediad atynt trwy wasanaethau i bobl ifanc, lle byddant yn cael eu cynnwys ac yn cael cymorth i adnabod y gwasanaethau gwybodaeth sydd eu hangen arnynt i ddatblygu sgiliau sy’n gysylltiedig â dyfeisgarwch ac entrepreneuriaeth sy’n esgor ar batrymau cyflogaeth newydd; byddant hefyd yn cael cyfle i gael mynediad at y gwasanaethau hyn a chyfle i arbrofi â nhw a’u defnyddio. Bydd modd i bobl ifanc gael mynediad uniongyrchol i gyfleusterau’r labordai digidol drwy rwydwaith cenedlaethol o asiantaethau sy’n cymryd rhan.

Sefydlwyd tri labordy digidol peilot yn 2003: labordy digidol Wrecsam sy’n cynrychioli’r gogledd ac mae wedi’i leoli yn un o ganolfannau ieuenctid yr Awdurdod Lleol. Mae Llanymddyfri yn y gorllewin yn ardal wledig, Cymraeg ei hiaith a cheir labordy digidol yn yr YMCA lleol. Mae labordy digidol y de yn swyddfa Canllaw Online yng Nghaerffili. Roedd Fujitsu Services wedi cyllido’r caledwedd, y meddalwedd a’r hyfforddiant ar gyfer y tri labordy digidol peilot a bydd y cwmni’n darparu gwasanaethau TG parhaus i’r holl labordai digidol.

“Rydym yn cynnig y cyfle hwn i’r holl ddarparwyr sy’n cynnig gwasanaethau i bobl ifanc yng Nghymru. Yn rhan o’r rhaglen, mae cymorth ar gael i sefydliadau gwasanaethau ieuenctid sy’n poeni nad oes ganddynt y wybodaeth, y sgiliau, yr adnoddau neu’r amser.”
Elise Stewart, Cyfarwyddwr, Canllaw Online.

Meddai Andrea Jackson, rheolwr yng Nghanolfan Pobl Ifanc Wrecsam: “Mae gennym grwp i ddynion ifanc oedd yn methu penderfynu beth i’w wneud; mae’r grwp bellach yn creu gwefan ar gyfer y ganolfan. Mae’r grwp i ferched ifanc, The Right 2 Respect, yn paratoi logo ar gyfer bag chwaraeon. Mae rhieni ifanc sy’n perthyn i Compass, rhan o elusen Barnardo’s, sydd erioed wedi gweithio â chyfrifiaduron o’r blaen yn llawn syniadau. Gan fod y potensial mor amlwg, mae Cyngor Wrecsam wedi cytuno i gyllido swydd gweithiwr ieuenctid arall.”

image of computer
Canllaw Online, Fujitsu, European Union

 

 

 

 

 

 

 







 

Sgiliau TGCh ar gyfer Pobl Ifanc

Trwy labordai digidol CREDU, bydd pobl ifanc yn cael y cyfle i ddysgu sgiliau TGCh sy’n hanfodol yn y byd digidol sydd ohoni. Bydd pobl ifanc yn cael eu hannog i ddatblygu cynnwys ar gyfer porth CREDU ar bynciau sy’n bwysig iddynt ac yn y ffyrdd sy’n mynegi orau eu syniadau, eu hemosiynau a’u gallu creadigol – boed ar ffurf stori ddigidol, rap, dyddiadur fideo, erthygl ysgrifenedig, animeiddiad, darn o gerddoriaeth ac ati.

Mae CREDU yn seiliedig ar y gred bod unigolion yn fwy abl i wneud dewisiadau mewn bywyd os oes ganddynt fynediad i wybodaeth. Bydd y labordai digidol yn darparu mynediad i’r wybodaeth ddiweddaraf a gwybodaeth o safon fel y gall pobl ifanc asesu’r opsiynau sydd ar gael iddynt a chanlyniadau unrhyw benderfyniadau y maent yn eu gwneud.

“Mae CREDU yn creu rhaglen gynhwysol sy’n defnyddio’r technolegau diweddaraf i gynorthwyo pobl ifanc yng Nghymru, gan sicrhau lefelau newydd o gyfranogaeth, arweinyddiaeth, sgiliau, menter, dyfeisgarwch a swyddi cynaliadwy.” Elise Stewart, Cyfarwyddwr, Canllaw Online

Cyfrannu i’r Economi

Bydd pobl ifanc ar draws Cymru’n gallu cael mynediad at wybodaeth a’i chreu drwy gyfryngau digidol, porth y prosiect a’r rhyngrwyd. Mae CREDU yn defnyddio rhwydwaith o gyfleusterau cynhyrchu digidol (labordai digidol) er mwyn cyflwyno strategaeth i ymrwymo pobl ifanc a fydd yn caniatáu iddynt ddechrau gweld pa gyfleoedd y gallai’r chwyldro digidol eu cynnig iddynt. Bydd hyn yn arwain at gyfres o gyfleoedd i wella eu sgiliau a’u gallu i gael gwaith a’r cyfle i gael hyfforddiant pellach a dechrau creu opsiynau ar gyfer bod yn hunangyflogedig.

Bydd pobl ifanc Cymru’n rhan o’r rhaglen genedlaethol gyntaf o’i math yn y byd sy’n ymwneud â datblygu sgiliau a chynhyrchu deunyddiau. Bydd y sgiliau arwain y byddant yn eu datblygu yn sicrhau gwell gwasanaethau i bobl ifanc yng Nghymru yn ogystal â sicrhau bod economi Cymru’n gallu cystadlu yn yr Oes Wybodaeth.

Mae’r bartneriaeth sy’n cefnogi’r fenter hon yn cynnwys cwmnïau TGCh mawr o’r sector preifat a fydd yn dod â ffocws newydd ar entrepreneuriaeth, arweinyddiaeth, adeiladu gallu a datblygu busnes.

Mae’r model dysgu’n seiliedig ar fodd ymarferol o gynhyrchu cynnwys sydd o ddiddordeb i bobl ifanc a bydd y cyfleusterau technoleg sydd ar gael yn y labordai digidol yn golygu y bydd modd hyfforddi’n rhyngweithiol ar fwy nag un safle, rhannu sgiliau a gwybodaeth a rhoi cymorth i’r sawl sy’n awyddus i gynllunio a datblygu busnesau. Bydd modd i bobl ifanc gael y cymorth a’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i gyrraedd eu potensial a symud yn esmwyth i fyd gwaith a bywyd fel oedolyn. Y prif amcan yw annog mwy o bobl ifanc i gymryd rhan yn y rhaglen CREDU gan ddod â manteision i’r bobl ifanc eu hunain, y sefydliadau sy’n eu gwasanaethu a’u cymunedau. Bydd modd adeiladu ar y cyfleoedd hyfforddi a’r cyfleoedd sy’n gysylltiedig â phrosiectau, fel bod nifer gynyddol yn meddu ar y cymwysterau sydd eu hangen arnynt ar gyfer addysg bellach a byd gwaith. Rhoddir sylw arbennig i’r bobl ifanc hynny sy’n teimlo eu bod wedi’u heithrio ac sy’n ei chael hi’n anodd defnyddio’r ffynonellau cymorth arferol.

Mae CREDU yn brosiect gwerth £17 miliwn, gan gynnwys grant o £9 miliwn gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO). Bydd CREDU yn cael ei ymestyn dros ddwy flynedd a hanner i gychwyn a bydd wedi’i anelu at ardaloedd Amcan 1 yn y lle cyntaf, sy’n cynnwys 15 o 22 o awdurdodau unedol Cymru. Fodd bynnag, y gobaith yw y bydd y rhaglen yn cynnwys Cymru gyfan yn y pen draw.

CREDU: creda yn dy ddyfodol digidol.

Am wybodaeth bellach ynghylch prosiect CREDU a sut mae cymryd rhan ynddo, cysylltwch â Canllaw Online ar 029 2088 78 68.

Cer i'r porth CREDU at www.credu.co.uk