datblygu a chefnogi gwasanaethau gwybodaeth i bobl ifanc
hafan ynglyn a canllaw online tim canllaw online gwerthoedd ac Egwyddorion Craidd swyddi mentrau eraill
cysyllta ni cysylltiadau telerau ac amodau polisi preifatrwydd English
 

 

 

 

Beth yw “Enlightening”?

Mewn partneriaeth rhwng MarketStream – cwmni ymchwil
i’r farchnad sydd wedi’i leoli yn Llundain a Chymru – a Canllaw Online, bydd rhwydwaith o ganolfannau ymchwil rhagorol yn cael eu sefydlu ledled Cymru.

Bydd “Enlightening” yn brosiect arloesol a chyffrous gwerth miliynau o bunnoedd yn gwneud defnydd o’r dechnoleg loeren ddwyffordd ddiweddaraf ac ymchwil i’r farchnad er budd pobl ifanc a darparwyr gwasanaethau i bobl ifanc yng Nghymru.

Mae’r prosiect wedi cael cefnogaeth ariannol sylweddol
gan Asiantaeth Ofod Ewrop. Mae ceisiadau pellach yn cael eu cyflwyno i ddatblygu’r prosiect i’w lawn botensial.

“Mae’r Prosiect “Enlightning” yn gyfle allweddol i ddatblygu’r farchnad ar gyfer y system mrStream a grëwyd yn rhan o raglen ARTES 3 Asiantaeth Ofod Ewrop. Gyda’r fenter hon, bydd dulliau o gyfathrebu trwy loeren ryngweithiol band-eang yn chwarae rhan hanfodol wrth hwyluso’r defnydd o gymwysiadau aml-gyfrwng newydd, lle bydd modd cyfrannu a dosbarthu data o fewn yr un rhwydwaith mewnol. Credwn fod y posibiliadau ar gyfer datblygiad o’r math hwn yn anferthol, ac mae’n siwr bod llawer mwy i ddod”.
Francesco Feliciani, Asiantaeth Ofod Ewrop

Bydd “Enlightening” yn cynnwys rhwydwaith o tua saith deg o ganolfannau, ledled Cymru, i’r diben o greu ymchwil o safon ragorol i faterion sy’n effeithio pobl ifanc gan bobl ifanc. Gan ddefnyddio offer archwilio pellgyrhaeddol, ynghyd â’r datblygiadau lloeren diweddaraf, bydd y prosiect yn casglu ac yn coladu cynnwys adroddiadau, arolygon, clipiau fideo, ffotograffau, traethodau, cerddi (popeth!) wedi’u casglu gan bobl ifanc, a bydd y wybodaeth a gesglir yn cael ei bwydo’n ôl i ddatblygwyr gwasanaethau i bobl ifanc.

"Credwn ei bod yn debygol mai craffter defnyddwyr fydd ffynhonnell bwysicaf creu cwsmeriaid a gwerth yn y blynyddoedd nesaf. Credwn y bydd y sefydliadau a fydd yn ennill yn adeiladu’r gallu hwn yn wirioneddol frwd yn y blynyddoedd nesaf". Michael O'Donohue, Arbenigwr Barnau Defnyddwyr, McKinsey & Company

Bydd “Enlightening” yn galluogi darparwyr gwasanaethau hysbysiaeth pobl ifanc i gael gwybod ganddynt am eu huchelgeisiau, eu breuddwydion, eu pryderon a’u hofnau – i ganfod lle y maent, lle y maent yn mynd a pha wybodaeth sy’n ofynnol iddynt gyrraedd yno.

Ar hyn o bryd, yn ei gyfnod llywio y mae’r prosiect, ac mae technolegau lloeren ar gael ar 3 safle a leolwyd yn strategol mewn cyd-destunnau trefol a gwledig ledled Cymru.

Y prosiect Cymru gyfan cyntaf yn y cyfnod llywio / profi cysyniad sy’n defnyddio’r dechnoleg yw gwerthusiad o syniadau a barn pobl ifanc am Drafnidiaeth Gyhoeddus. Mae’r arolwg yn defnyddio‘r we, SMS a fformadau papur traddodiadol i gasglu tystiolaeth feintiol, tra bo clipiau fideo o gyfweliadau a grwpiau ffocws yn rhoi tystiolaeth ansoddol.
Archwiliodd yr ail brosiect “Enlightening” ddealltwriaeth pobl ifanc o strwythurau’r llywodraeth, a chyflwynwyd y dystiolaeth hon i’r Comisiwn Richard.

Manteision i Gymru

Mae’r fenter “Enlightening”, gyda’i thechnoleg loeren, yn greiddiol i ddatblygiad darpariaeth gwasanaeth hysbysiaeth yng Nghymru, gan gynnig mynediad yn syth i rwydwaith o ganolfannau ymchwil. Mae’r dechnoleg yn darparu ffeiliau sain a gweledol o ansawdd darlledu, hyd yn oed yn yr ardaloedd hynny o Gymru lle mae band-eang traddodiadol yn anodd i’w osod.

Bydd system aml-sianel yn cofnodi syniadau a theimladau pobl ifanc o’u persbectif hwythau, ynghyd â dadansoddiad meintiol ar ystod o bynciau o dan benawdau Mynegai Gwybodaeth Canllaw Online, gan alluogi mynediad uniongyrchol i hysbysiaeth sy’n hanfodol i dwf ac ehangiad darpariaeth gwasanaeth i bobl ifanc.

Mantais “Enlightening” yw ei fod, drwy ddefnyddio’r dechnoleg a’r meddalwedd sydd ar gael, yn galluogi pobl ifanc i fynegi barn am unrhyw bwnc, drwy’r cyfrwng y maent yn fwyaf cyffyrddus ynddo, boed hynny ar ffurf rap, dawns, cân, darn o gerddoriaeth, traethawd, arolwg, cyfweliad, trafodaeth grwp, neu gyfuniad o’r uchod i gyd … mae’r posibiliadau’n ddiddiwedd. Gellir defnyddio’r fenter i fod o fudd i’r unigolyn, neu grwp, neu gymuned gyfan, gyda’r wybodaeth a’r mewnbwn wedi’u storio, eu rhestru, eu rhannu a’u trafod.

Bydd “Enlightening” yn galluogi pobl ifanc, yn adeiladu eu hunanhyder drwy eu hymwneud a’u cyfranogiad gweithredol. Bydd pobl ifanc yn gweld sut y mae pob llais unigol yn bwysig ac yn gallu effeithio ar y ffordd y gwneir pethau, a bydd y bobl ifanc hynny sy’n cymryd rhan yn datblygu medrau ymchwil i’r farchnad a dirnadaeth gymdeithasol.

" Mae datblygu medrau a dirnadaeth gymdeithasol defnyddwyr ymysg pobl ifanc Cymru yn fedr bywyd hanfodol – lle bynnag y mae pobl ifanc yn penderfynu gweithio, pa un ai yn y sector cyhoeddus neu breifat, bydd y gallu i ymchwilio, casglu data a chyflwyno’r data hwnnw’n effeithiol, yn helpu eu gyrfaoedd unigol ac yn helpu Cymru i ddatblygu cynnyrch masnachol a gwasanaethau cyhoeddus hynod arloesol a chraff". Tony Bowden, Rheolwr Gyfarwyddwr, MarketStream Limited

Bydd pob un o’r canolfannau’n cynhyrchu cynnwys – gan alluogi pobl ifanc i ddysgu oddi wrth ei gilydd drwy grynhoi gwybodaeth – a sefydlu casgliad o wybodaeth a fydd o fudd i bawb. Gall y cynnwys amrywio, gydag arwyddocâd lleol neu genedlaethol. Gall pobl ifanc fanteisio ar alluoedd ei gilydd, wrth iddynt rannu profiadau a medrau “gwneud” yn ymarferol ac yn ddamcaniaethol.

Drwy chwilota am wybodaeth gan ddefnyddio technoleg aml-blatfform, bydd pobl ifanc ledled Cymru gyfan nid yn unig yn adeiladu gwell medrau ymchwil, ond hefyd yn cyfrannu’n uniongyrchol at gorff o wybodaeth rheoli yn feintiol ac ansoddol.

“Os oes gennych wybodaeth, gadewch i eraill gynnau eu canhwyllau wrthi”.
Margaret Fuller (1810 - 1850)