datblygu a chefnogi gwasanaethau gwybodaeth i bobl ifanc
hafan ynglyn a canllaw online tim canllaw online gwerthoedd ac Egwyddorion Craidd swyddi mentrau eraill
cysyllta ni cysylltiadau telerau ac amodau polisi preifatrwydd English
 
1520

 

Arweinlyfr | Gwefan | Cerdyn Ewro <26 | Canolfannau Info | Ymgynghoriaeth | Hyfforddiant | Llinellau Cymorth

 

Cerdyn Ewro <26

Beth yw’r Cerdyn?

Mae’r Cerdyn Ieuenctid Ewropeaidd yn rhoi cyfle i bobl ifanc o dan 26 oed i gael cannoedd o ostyngiadau pris ledled Cymru a miloedd mwy ohonynt mewn 35 o wledydd eraill drwy Ewrop. Rhoddir y cerdyn am ddim i bob person ifanc o oedran gadael ysgol yng Nghymru, ac mae’n ddilys am bedair blynedd. Mae’r cerdyn ar gael am gost o £7 bob blwyddyn i’r rheiny nad ydynt o fewn y grwp oedran

“Entitlement”.Y cerdyn Ewro <26 yw’r unig un i bob person ifanc o dan 26 oed, pa un ag ydynt yn fyfyrwyr, yn gweithio, yn ddi waith, yn rhieni, neu’n hyfforddi.

Mae 42 o aelodau yng Nghymdeithas Cerdyn Ieuenctid Ewropeaidd – 32 sefydliad yn aelodau llawn a 10 yn aelodau cysylltiedig. Ar ddiwedd mis Rhagfyr 2002 (y data mwyaf diweddar sydd ar gael), dosbarthodd 38 sefydliad gardiau i dros 4,125,000 o bobl ifanc dan 26 oed, a mwy na 70,000 ohonynt yng Nghymru. Disgwylir i’r ffigwr hwn godi i 105,000 yn 2003/04.

Nid yw’n costio dim i ymuno â’r cynllun cardiau fel cyfrwng gostyngiad pris ac mae’n rhoi cyfle i siopau a mannau ledled Cymru gynnig gwasanaethau a chynnyrch i bobl ifanc.

Hanes y Cerdyn:

Ym 1986, yr oedd chwe cherdyn ieuenctid cenedlaethol gwahanol yn Ewrop yn cynnig gostyngiadau pris a chyfleoedd ym meysydd diwylliant, hamdden, chwaraeon, teithio, hysbysiaeth, nwyddau a gwasanaethau (yng Ngwlad Belg, Ffrainc, yr Iseldiroedd, Portiwgal, yr Alban a Sbaen).

Gan gydnabod eu nodau cyffredin, dechreuodd y sefydliadau cerdyn ieuenctid gydweithredu’n Ewropeaidd i wneud yr holl fanteision ar gael i bob daliwr cerdyn ieuenctid ym mhob un o’r chwe gwlad. Y cydgyfnewid hwn rhwng y chwe cherdyn a esgorodd ar datblygu un cerdyn ieuenctid Ewro <26 Ewropeaidd.

Ym 1987, bu arwyddo ‘Protocol Lisbon’ (y ddogfen sylfaenol sy’n llywodraethu cyfnewidiaeth gostyngiadau pris) yn ddechreuad cardiau ieuenctid Ewropeaidd mewn gwirionedd. Ers hynny gwelwyd twf bob blwyddyn: mwy o wledydd yn ymuno, mwy o bobl ifanc yn cael gafael ar y cerdyn, manteision a gwasanaethau newydd yn cael eu hychwanegu ynghyd â chefnogaeth gwahanol sefydliadau Ewropeaidd, megis Cyngor Ewrop a’r Comisiwn Ewropeaidd.

Ym 1991, cytunodd Cyngor Ewrop i ardystio’r cerdyn drwy fabwysiadu Cytundeb Rhannol ar y Cerdyn Ieuenctid, a’i gydnabod yn declyn cefnogi symudedd ieuenctid yn Ewrop. Ers hynny mae llywodraethau 15 gwlad Ewropeaidd wedi ymuno â’r cytundeb hwn.

Manteision y Cerdyn:

Mae’r cerdyn ieuenctid Ewro <26 yn cynnig gostyngiadau pris mawr i bobl ifanc ledled Ewrop. Serch hynny, mae’n llawer mwy na cherdyn yn unig –i bobl ifanc Ewropeaidd mae’n allwedd i hysbysiaethaeth, symudedd, diwylliant a chyfranogiad. Drwy ystod o wasanaethau, gostyngiadau pris a manteision, mae’r cerdyn Ewro <26 yn annog pobl ifanc i wneud dewisiadau bywyd yn ddeallus, i archwilio eu byd a chwarae rhan lawn fel dinasyddion Ewrop yn y gymdeithas sydd ohoni.

Mae CCIE (Cymdeithas Cerdyn Ieuenctid Ewropeaidd) yn hyrwyddo ac yn datblygu’r delfryd Ewro<26, gan gefnogi sefydliadau sy’n aelodau a hyrwyddo gweithgareddau rhyng-Ewropeaidd.

Mae CCIE yn hyrwyddo pob cerdyn ieuenctid i roi gwell mynediad i bobl ifanc i drafnidiaeth, llety, gweithgareddau hamdden, diwylliant, chwaraeon – yn wir, i unrhyw fanteision a gwasanaethau a fo’n annog eu datblygiad, eu symudedd ac a fo’n gwella ansawdd eu bywyd.

Mae pob aelod CCIE yn darparu gostyngiadau pris, manteision, gwasanaethau a hysbysiaeth yn eu gwlad eu hunain i’w dalwyr cardiau ifanc. Mae’r logo Ewro<26 yn sicrhau bod y gostyngiadau pris hyn ar gael yn awtomatig i bob daliwr cerdyn ledled Ewrop. Ar hyn o bryd, mae tua 100,000 o fanteision, gan gynnwys:

  • Diwylliant: theatrau, sinemâu, cyngherddau, amgueddfeydd, digwyddiadau
  • Trafnidiaeth: bysiau, trenau, llongau, hedfan
  • Teithio: llety, gwyliau, teithio, cyrsiau iaith
  • Gwasanaethau: yswiriant, llinellau cymorth
  • Siopau: CDs, llyfrau ac amryw nwyddau
back to the links page

 

Canllaw Online – rheoli’r Cerdyn yng Nghymru

Yng Nghymru, Canllaw Online yw’r aelod CCIE sy’n dilyn, gyda chytundeb ffurfiol Asiantaeth Ieuenctid Cymru yn 2001, ac yn etifeddu’r rôl hon. Yn 2003, Canllaw Online yw cynrychiolydd rhanbarthol y DU ar lefel bwrdd rheoli Cymdeithas Cerdyn Ieuenctid Ewropeaidd.

Mae Canllaw Online wedi ymgorffori’r cerdyn Ewro <26 i mewn i’r Prosiect “Entitlement” Canllaw Online fel un o’r saith elfen allweddol, ac mae’n gallu dosbarthu cerdyn Ewro <26 fel rhan o’r “Entitlement” hwn i bob person ifanc o oedran gadael ysgol. Cymru yw unig aelod y CCIE lle dosberthir y cerdyn i holl ymadawyr ysgol fel rhan o becyn hysbysiaeth. Mae’r Iseldiroedd, rhannau Gwlad Belg sy’n siarad Fflemineg, a’r Alban hefyd yn dosbarthu’r cerdyn i ymadawyr ysgol. Mae Gweriniaeth Slofacia, Lithwania a Chroatia yn archwilio posibiliadau o’r fath.
Fel aelod o CCIE, mae Canllaw Online yn darparu’r cerdyn i bobl ifanc sydd y tu allan i ystod oedran grwp “Entitlement” am y gwerth stryd rheolaidd o £7.

Mae Canllaw Online wedi integreiddio’r cerdyn Ewro<26 i Brosiect “Entitlement” Canllaw Online, gan gredu ei fod yn gydran greiddiol i ddenu pobl ifanc.

Hefyd, fel rhan o’r pecyn “Entitlement”, mae Canllaw Online wedi datblygu modwl hyfforddiant ar gyfer pobl ifanc (gyda chefnogaeth eu sefydliadau ieuenctid) parthed dynodi a recriwtio gostyngwyr pris lleol.

Mae Canllaw Online wedi gweithio’n galed gyda phartneriaid gwasanaethau ieuenctid a Phartneriaethau Pobl Ifanc ledled Cymru ar ddosbarthiad diogel y cerdyn (mae’r cerdyn Ewro<26 “Entitlement” yn datgan yn glir nad yw’n gerdyn profi oedran). Mae’r partneriaid hyn yn sicrhau y defnyddir data pobl ifanc yn gywir ar y cardiau hyn.

Mae Canllaw Online yn datblygu ystod, nifer ac ansawdd y gostyngiadau pris sydd ar gael i bobl ifanc yng Nghymru.

Gwerth ychwanegol i Gymru:

Yn rhan o rwydwaith CCIE, mae Canllaw Online a’r dalwyr cardiau yng Nghymru yn elwa ar brosiectau a ariennir yn Ewropeaidd ac yn cyfranogi ynddynt, gan gynnwys:

1) Ieuenctid yn Adeiladu Ewrop (Ariennir gan y Rhaglen IEUENCTID)

Prosiect syn dod â dalwyr cardiau ifanc o Sbaen, yr Iseldiroedd, Lwcsembwrg, Awstria, Gwlad Pwyl, Slofenia a Chymru ynghyd i archwilio agweddau tuag at y cerdyn Ewro<26, yr Undeb Ewropeaidd ac Ewrop yn ehangach.

2) Ewrop dros Newid (Ariennir gan y Rhaglen Princes)

Mae “Ewrop dros Newid” yn gydweithrediad rhwng cenhedloedd sydd yn yr UE a rhai nad ydynt yn yr UE (Awstria, Gwlad Belg, Prydain (Cymru a’r Alban), yr Eidal, Portiwgal, Gwlad Pwyl, Slofenia, Estonia, Latfia, Lithwania, Malta, Slofacia, Gweriniaeth Tsiec, Hwngari a Chyprus) i ddatblygu ymgyrch ryngwladol ynglyn ag ehangu Ewrop.

Mae’r prosiect yn llwyfannu ymgyrch hysbysiaeth yn y gwledydd cyfrannog, ynghyd â chystadleuaeth ar gyfer pobl ifanc yn seiliedig ar ehangu’r Undeb Ewropeaidd gyda chyflwyniad deg gwlad newydd yn 2004.

Gofynnir i bobl ifanc gyflwyno eu barn am yr ehangiad, a’u dyheadau a’u breuddwydion, a wnaeth dau ymgeisydd llwyddiannus o bob gwlad yn cymryd rhan mewn gweithdy pum diwrnod yn Salzburg ym mis Awst. Nod y gweithdy oedd dod â phobl ifanc o wahanol ddiwylliannau ynghyd drwy fforymau trafod, sesiynau fideo a ffotograffau ac ymgyrchoedd ymwybyddiaeth cymdeithasol.

3) Mannau lletygarwch a safbwyntiau awduron ifanc (ariennir gan y Cytundeb Rhannol): EURPlace<26

Caerdydd yw un o’r dinasoedd llywio ar gyfer datblygu mannau lletygarwch ar gyfer dalwyr cardiau ledled Ewrop. Mae rhwydwaith HYSBYSIAETH Canllaw Online yn cynnig strwythur da i’w cynnwys mewn mannau hysbysiaeth sy’n bodoli eisoes. Mae awdur ifanc o Rwydwaith Awduron Ifanc Canllaw Online hefyd wedi cyfranogi yn y prosiect, gan baru ag awdur ifanc o wlad arall. Ar ôl taith gyfnewid, rhoesant ddisgrifiad o ddinasoedd ei gilydd ar gyfer ymwelwyr ifanc eraill.