Ymgynghoriaeth
Mae ein gwasanaeth ymgynghori wedi’i lunio i helpu
a chyfarwyddo sefydliadau sy’n dymuno datblygu gwasanaeth
gwybodaeth i bobl ifanc. Mae Canllaw Online yn cynnig cefnogaeth
ac arweiniad drwy gyfnod cychwynnol sefydlu’r gwasanaeth
a chyngor parthed cynllunio busnes, cynllunio datblygiad,
polisïau, cyllideb, deddfwriaeth a chanllawiau gweithredol.
Nod Gwasanaeth Ymgynghori Prosiect “Entitlement” Canllaw
Online yw arwain pobl drwy brofiad – i dywys pobl ag
ychydig neu ddim gwybodaeth am wasanaethau gwybodaeth i bobl
ifanc i lefel o arbenigedd, drwy gadarnhau sut y gallant
gyflawni orau yr hyn sy’n ofynnol iddynt o fewn diwylliannau
ac ardaloedd lleol gan ddefnyddio adnoddau lleol.
Mae Canllaw Online wedi cyflwyno ei wasanaeth ymgynghori
i’r 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru, sefydliadau gwirfoddol
cenedlaethol megis Ieuenctid Cymru, Clybiau Bechgyn a Merched
Cymru, YMCA, YWCA, Guides Cymru, Clybiau Ffermwyr Ifanc,
SNAP Cymru, Hyfforddiant Rathborne a darparwyr annibynnol
megis Prosiect Ieuenctid Penarth, Springboard, Prosiect Pobl
Ifanc Gorllewin y Rhyl, Grassroots, Dr Mz, Streets, Catapult,
Area 41 ac Area 43.
|
Mae Canllaw Online yn ymroi i ddarparu i weithwyr mewn gwasanaethau
gwybodaeth i bobl ifanc ledled Cymru y medrau a’r wybodaeth
angenrheidiol i gefnogi’r cynllun Canolfannau Info.
Mae gan ddarparwyr gwasanaeth y cyfle i gofrestru ar gyfer
Nod Ansawdd Canllaw Online. Cyflwynwyd y cynllun hwn i Canolfannau
Info er mwyn sefydlu methodoleg gyffredin yn graidd i gyflwyniad
gwasanaethau gwybodaeth i bobl ifanc ledled Cymru, gan sicrhau
yr arddangosir arwyddion, logos a phenawdau’r gwybodaeth
ym mhob ffynhonnell gofrestredig sy’n gweithio tuag at
nod ansawdd. Mae’r cysondeb cenedlaethol hwn yn darparu
rhwydwaith o Canolfannau Infohawdd eu hadnabod gan bobl ifanc.
|