Arweinlyfr
Bob blwyddyn, mae Canllaw Online yn cyhoeddi arweinlyfr
mawr sy’n llawn gwybodaeth am angenrheidiau bywyd,
y byd a phopeth. Mae’r arweinlyfr yn cwmpasu 350 o
bynciau o A-Y, ac mae’r cynnwys yn esblygu bob blwyddyn
i adlewyrchu newid a dilyniant cymdeithasol a diwylliannol.
Mae hawl gan tua 35,000 o bobl ifanc o oedran gadael ysgol
i gael y cyhoeddiad yn eu hiaith ddethol – Cymraeg
neu Saesneg. Mae’r arweinlyfr hefyd ar gael mewn print
bras, Braille ac fel tapiau sain.
Mae’r arweinlyfr yn hanfodol i unrhyw berson ifanc
neu weithiwr ieuenctid, ac fe rydd fynediad i gwybodaeth,
cyngor a ffeithiau diduedd – a chefnogir y rhain i
gyd gan ymgynghori’n rheolaidd â phobl ifanc.
Mae hefyd yn darparu manylion cyswllt gwerthfawr ar gyfer
sefydliadau sy’n cyfateb â’r categorïau
yn neg pennawd Mynegai Gwybodaeth Canllaw Online.
Yn ogystal, mae’r arweinlyfr yn orlawn o syniadau,
ac awgrymiadau ar gyfer gweithgareddau, cystadlaethau, gostyngiadau
pris a ffotograffau, gan gyflwyno teclyn gwybodaeth llawn
hwyl a hynod ddefnyddiol i bobl ifanc – teclyn a gyfrannwyd
iddo gan bobl ifanc.
Cyfrannwyd y ffotograffau a ddefnyddir yn y cyhoeddiad,
sef ”Doeth, dy ganllaw hanfodol i fywyd, y byd a phopeth”,
gan bobl ifanc o ganlyniad i gystadleuaeth ffotograffiaeth
a gynhaliwyd gan Canllaw Online ac a gefnogwyd gan Canon
a’r Welsh Daily Mirror, i annog pobl ifanc i fynegi
drwy ddelweddau ffotograffig ac o dan un o benawdau Mynegai
Gwybodaeth Canllaw Online sut brofiad o fywyd a gânt
yng Nghymru.
|
Cafodd enillydd y gystadleuaeth offer camera Canon IXUS III
APS, ac wythnos o brofiad gwaith gyda ffotograffydd gwasg y
Welsh Daily Mirror – gan gael hyfforddiant amhrisiadwy
yn y fan a’r lle. Hefyd, gan y defnyddiwyd ceisiadau
eraill yn y arweinlyfr “Doeth” ac ar y wefan www.doeth1520.info,
cafodd nifer o bobl ifanc fudd o weld eu gwaith eu hunain wedi’i
gyhoeddi. Hefyd, roedd rhifyn 2002/2003 y cyhoeddiad yn cynnwys
cystadleuaeth ar wahân a gefnogwyd gan Canon, ac enillydd
y brif wobr yn cael camera Canon IXUS X-1. Anogodd y gystadleuaeth
bobl ifanc i ddatgan eu barn am y arweinlyfr “Doeth”,
gan roi adborth gwerthfawr ac uniongyrchol i Canllaw ar gynnwys
y cyhoeddiad.
Cynhyrchir y wybodaeth yn y cyhoeddiad bob blwyddyn gan aelodau
tîm Canllaw Online i sicrhau ei bod mor gyfoes â phosibl.
Caiff ei hanfon hefyd at ymgynghorwyr yn y Cynulliad ac amryw
sefydliadau arbenigol eraill, lle y gwirir y cynnwys am fanylrwydd
a dilysrwydd.
Dosberthir y cyhoeddiad i bob person ifanc sengl yng Nghymru
o oedran gadael ysgol, drwy rwydweithiau gwasanaethau ieuenctid
lleol, Partneriaethau Pobl Ifanc ac ysgolion. Drwy gyfrwng
y cyhoeddiad, mae gan bobl ifanc Cymru allwedd i ddatgloi gwybodaeth
a gyflwynir iddynt fel rhan o’u hawl.
|