datblygu a chefnogi gwasanaethau gwybodaeth i bobl ifanc
hafan ynglyn a canllaw online tim canllaw online gwerthoedd ac Egwyddorion Craidd swyddi mentrau eraill
cysyllta ni cysylltiadau telerau ac amodau polisi preifatrwydd English
 
1520

 

Arweinlyfr | Gwefan | Cerdyn Ewro <26 | Canolfannau Info | Ymgynghoriaeth | Hyfforddiant | Llinellau Cymorth

 

Cefndir Canllaw Online:

Honnir bod Syr Francis Bacon wedi dweud “grym yw gwybodaeth” a’r llwybr i wybodaeth yw hysbysiaeth. Amcan Canllaw Online yw cyflwyno gwell hysbysiaeth i’r bobl ifanc ledled Cymru, gan arwain at well dewisiadau bywyd.

Mae Canllaw Online Cyf, sefydliad ddim am elw a hefyd elusen gofrestredig, yn cynnig nifer o wasanaethau dwyieithog sy’n gysylltiedig â dosbarthu hysbysiaeth drwy gyfres o fentrau unigryw i bobl ifanc a darparwyr gwybodaeth i bobl ifanc.

Er iddo gael ei sefydlu, mae mwy o hanes y tu ôl i’r enw “Canllaw Online”. Dechreuodd y prosiect o ganlyniad i ymweliad astudio â’r Alban ym 1983, lle’r oedd y fenter “Young Scot” ar fin cael ei lansio.

Cydnabuwyd pwysigrwydd gwasanaeth hysbysiaeth wedi’i anelu at bobl ifanc yn benodol, a datblygwyd prosiect tebyg yng Nghymru, gan ddefnyddio arian a ddaeth ar gael o’r Swyddfa Gymreig yn sgîl y Flwyddyn Ieuenctid Ryngwladol.

Sefydlwyd y fenter Canllaw Online, yn cynnwys pobl ifanc, gweithwyr ieuenctid a golygydd. Cyhoeddwyd cyfres o dri llawlyfr yn Gymraeg ac yn Saesneg, yn darparu hysbysiaeth i bobl ifanc. Seiliwyd y fenter ar egwyddorion Gwaith Ieuenctid.

Yn ddiweddarach, erbyn y 1990au cynnar, yr oedd y Swyddfa Ieuenctid Genedlaethol yn Lloegr wedi dechrau cynllun ‘Siop Hysbysiaeth’, ar ôl ymchwilio i’r gwasanaethau hysbysiaeth a oedd ar gael i bobl ifanc mewn gwledydd eraill, a phenderfynu bod angen strategaeth genedlaethol ar gyfer cyflwyniad hysbysiaeth ledled Prydain.

Y bwriad y tu ôl i’r fenter Siop Hysbysiaeth oedd rhoi cyfle i bobl ifanc gael mynediad i hysbysiaeth a chyngor mewn amgylchedd cyfeillgar i ddefnyddwyr, gyda staff hyfforddedig, i sicrhau na fyddai unrhyw warth yn gysylltiedig ag ymholiadau posibl ar ran pobl ifanc. Sefydlwyd cynlluniau peilot noddedig yn Bradford, Nottingham ac Accrington. Ym 1993 cydnabu arolygiad AEM waith y fenter.

Ym 1993, dechreuwyd casglu cronfa ddata o hysbysiaeth i’w defnyddio gan Siopau Hysbysiaeth, gan arwain at system gyfrifiadurol erbyn diwedd y 1990au. Yr oedd yr Asiantaeth Ieuenctid Genedlaethol, gyda chyllid y Lotri Genedlaethol, yn gallu datblygu system o hybysiaeth graidd a fyddai ar gael drwy ddisgiau hyblyg i html.

Yng Nghymru, cefnogai Asiantaeth Ieuenctid Cymru waith yr Asiantaeth Ieuenctid Genedlaethol gan arloesi gwasanaethau hysbysiaeth i bobl ifanc. Tuag at ddiwedd y 1990au, cydnabuwyd bod angen sefydliad annibynnol.

Ym mis Medi 1999, sefydlwyd Canllaw Online Cyf yn sefydliad nad oedd yn bod i wneud elw, gyda’r dyhead o ddatblygu a chefnogi gwasanaethau hysbysiaeth cynhwysfawr i bobl ifanc yng Nghymru.

Gwerthoedd ac Egwyddorion Craidd Canllaw Online:

Nod Canllaw Online yw dod â gwell dewisiadau bywyd i bobl ifanc ledled Cymru drwy ddarparu mynediad i wasanaethau hysbysiaeth o ansawdd. Cyflawnir hyn drwy well gwasanaethau cyflwyno hysbysiaeth i hybu ymwybyddiaeth a datblygiad rhyng-ddiwylliannol, a symudedd, cyfranogiad, mynegiant a chydraddoldeb ieuenctid.

Adlewyrchir a thanategir y gwerthoedd a’r egwyddorion craidd hyn gan Ddatganiad Cwricwlwm Gwaith Ieuenctid ar gyfer Cymru (1993), Siarter Wybodaeth Ieuenctid Ewrop, Papur Gwyn Ewrop ar Ieuenctid (2001) a Chytundeb y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (a fabwysiadwyd yn y DU ym 1991), sy’n cefnogi hawl pobl ifanc i wybodaeth.

Mae Canllaw Online yn ymrwymedig i ymgynghori â phobl ifanc ledled Cymru a’u cynnwys ym mhob cyfnod o’r broses hysbysiaeth drwy gyfrwng cyrsiau preswyl rheolaidd, sesiynau grwp ffocws, arolygon a gweithgareddau.

Sefydliad dwyieithog yw Canllaw Online, sy’n cynnig gwybodaeth yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae’r Cynllun Iaith Gymraeg gwirfoddol a fabwysiadwyd gan Canllaw Online wedi’i gymeradwyo gan y Bwrdd Iaith Cymraeg yn unol â Deddf Iaith Gymraeg (1993).

Gyda llywodraeth wedi’i datganoli, a chyfleoedd ariannu strwythuredig, dwyieithrwydd a chymdeithas aml-ddiwylliannol, mae Cymru yn fan lansio gwych ar gyfer mentrau cyflwyno hysbysiaeth a chyfleodd y mae ar bobl ifanc eu hangen er mwyn gwneud gwell dewisiadau bywyd, a Canllaw Online ydy’r sefydliad i wireddu’r cynlluniau hyn.

Nodau Strategol Canllaw Online:

  • Polisi a Phartneriaeth Strategol.
    Nod Canllaw Online yw gweithio ar lefel polisi a strategaeth, gan lunio, cefnogi a datblygu gwasanaethau hysbysiaeth i bobl ifanc yng Nghymru yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
  • Cyfathrebu a hysbysiaeth
    Nod Canllaw Online yw cyfathrebu a hysbysu pobl ifanc a darparwyr gwasanaethau hysbysiaeth i bobl ifanc ledled Cymru.
  • Ymchwil
    Nod Canllaw Online yw ymchwilio anghenion gwybodaeth pobl ifanc a darparwyr gwasanaethau hysbysiaeth i bobl ifanc yn drylwyr ledled Cymru.
  • Ymgynghori
    Nod Canllaw Online yw darparu gwasanaethau ymgynghori i bobl ifanc a darparwyr gwasanaethau hysbysiaeth i bobl ifanc ledled Cymru.
  • Hyfforddiant
    Nod Canllaw Online yw darparu hyfforddiant i bobl ifanc a darparwyr gwasanaethau hysbysiaeth i bobl ifanc ledled Cymru.
  • Safonau Ansawdd
    Nod Canllaw Online yw cefnogi a datblygu mesurau sicrhau ansawdd parthed gwasanaethau hysbysiaeth i bobl ifanc ledled Cymru.
  • Ewropeaidd a Rhyngwladol
    Nod Canllaw Online yw cefnogi cyfranogiad pobl ifanc a darparwyr gwasanaethau hysbysiaeth i bobl ifanc a’u cynnwys o fewn cyfleoedd Ewropeaidd a rhyngwladol ehangach.
  • Busnes Newydd
    Nod Canllaw Online yw archwilio a sicrhau cyfleoedd newydd ar gyfer darparu gwasanaethau hysbysiaeth i bobl ifanc yng Nghymru.

Gwaith Partneriaeth

Mae Canllaw Online yn awyddus i weithio gyda chynifer o asiantaethau ac unigolion arbenigol ag sy’n bosibl er mwyn sicrhau bod yr hysbysiaeth a ddarperir ganddo mor fanwl gywir a diweddar ag sy’n bosibl. Wrth ddatblygu a chyflwyno ei wasanaethau hyd yn hyn, mae Canllaw Online wedi sefydlu perthynas waith ag asiantaethau/cyrff arbenigol o dan bob pennawd ym Mynegai Hysbysiaeth Canllaw Online.

Er enghraifft: Gwasanaethau Ieuenctid Awdurdodau Lleol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Asiantaeth Ieuenctid Cymru, CWVYS, Grwp Prif Swyddogion Ieuenctid, Partneriaethau Pobl Ifanc (PPI), Yr Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol, Ymddiriedolaeth Tywysog Cymru, ACAS, ELWA, RSPCA, Lonely Planet, YHA Cymru, Connect, Ysbyty Brenhinol Gwent, Cancer Research UK, Meningitis Cymru, Shelter Cymru, Funky Dragon, Gwasanaethau Cyfreithiol Cymunedol, Cyngor Defnyddwyr Cymru, Gwasanaethau Cynghori Credyd Defnyddwyr, Cyngor Chwaraeon Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru.

Cyflawniadau & Uchelgeisiau Canllaw Online:

Gan dargedu pob person ifanc, a defnyddio cyfuniad o gyfarpar a methodoleg fodern gyda phlatfformau traddodiadol, bwriad Canllaw Online yw gwneud hysbysiaeth yn hygyrch i holl bobl ifanc Cymru, gan mai gyda gwybodaeth daw’r gallu i wneud penderfyniad deallus.

Llwyddodd Canllaw Online i ddosbarthu y Prosiect “Entitlement” Canllaw Online rhwng Ionawr 2001 a Medi 2004 ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae Canllaw Online yn ymglymedig mewn nifer o fentrau gwahanol, yn gynnwys DOETH1520, CREDU, & Enlightening. Am fwy o wybodaeth ar y mentrau cyffroes yma, cliciwch ar yr adran berthnasol ar y dudalen flaen www.canllaw-online.com

Ar gyfer gwybodaeth o’r ansawdd orau i bobl ifanc yn arbennig, ewch i www.wise1520.info

O 1af Hydref 2004, mae prosiect gwybodaeth cenedlaethol yn cael eu dosbarthu gan Gymdeithas Gyrfa Cymru. Am fwy o wybodaeth, ewch i www.cliconline.co.uk

back to the links page