datblygu a chefnogi gwasanaethau gwybodaeth i bobl ifanc
hafan ynglyn a canllaw online tim canllaw online gwerthoedd ac Egwyddorion Craidd swyddi mentrau eraill
cysyllta ni cysylltiadau telerau ac amodau polisi preifatrwydd English
 
1520

 

Arweinlyfr | Gwefan | Cerdyn Ewro <26 | Canolfannau Info | Ymgynghoriaeth | Hyfforddiant | Llinellau Cymorth

 

Canolfannau Info

Yn ogystal â chyflwyno gwybodaeth i bobl ifanc yn uniongyrchol, mae Canllaw Online hefyd yn darparu cefnogaeth i rwydwaith o ganolfannau ledled Cymru – gan eu helpu i sefydlu a datblygu gwasanaethau gwybodaeth i bobl ifanc.

Ceir pedair ffurf ar ganolfannau INFO:

Siopau Info– (saeth goch) uned â staff yn llwyr ymroddedig i ddarpariaeth gwasanaethau gwybodaeth. Ceir Siopau INFO yng Nghasnewydd, Penarth, Abertawe, Wrecsam, Cwmbrân, Penybont-ar-Ogwr a Chaerdydd.

Cylchfaoedd Info- (saeth werdd) cylchfa a ddyrennir i bwrpas cyflwyno gwasanaethau gwybodaeth i bobl ifanc, gyda’r gofyn bod mynediad i’r rhyngrwyd a staff hyfforddedig am isafswm o 6 awr bob wythnos.

Info Symudol – (saeth felen) unedau symudol sy’n dosbarthu darpariaeth gwasanaeth gwybodaeth.

Safloedd Info – (saeth las) mynediad i daflenni am wasanaethau, gweithgareddau a chyfleoedd yn yr ardal leol.

Mae’r 100+ o ganolfannau’n arddangos ac yn cwmpasu deg pennawd llywodraethol Mynegai Gwybodaeth Canllaw Online, ac yn hyrwyddo’r cerdyn Ewro<26. Mae’n ofynnol hefyd fod y canolfannau’n gweithredu’n unol â safonau ansawdd cenedlaethol wrth gyflwyno gwybodaeth i bobl ifanc. Lle bynnag y dangosir y logo cenedlaethol a chyson “Info”, gall pobl ifanc fod yn siwr fod gwasanaeth o ansawdd ar gael iddynt.

Gan ddibynnu ar lefel y ffynonellau, maent yn darparu’r gwasanaethau canlynol:

Gwybodaeth gyfrinachol yn rhad ac am ddim, gan gynnwys taflenni, pamffledi, posteri a mynediad i'r Rhyngrwyd.

  • Gwasanaethau cynghori a chefnogaeth i bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed.
  • Gwybodaeth fanwl gywir, ddiweddar a pherthnasol
  • Hyfforddiant ac ymgynghoriadau i bobl ifanc
  • Gwasanaeth gwybodaeth symudol (ar gael mewn rhai achosion)
  • Mynediad i wefan 1520 Canllaw Online, sy’n anelu cyflwyno gwybodaeth i bobl ifanc.

back to the links page

 

O fis Medi/Hydref 2003 ymlaen, bydd Canllaw Online yn lansio gwefan “Info”, wedi’i dylunio’n benodol i gefnogi pobl sy’n gweithio mewn gwasanaethau gwybodaeth i’r ifanc, ac a fydd yn cynnwys canllawiau y gellir eu hislwytho ar gyfer sefydlu Ffynhonnell Gwybodaeth. Bydd tua 156 o erthyglau newyddion, 12 erthygl nodwedd, 12 sgwrs a 12 fforwm ar gyfer rhannu arferion yn cael eu cynnal bob blwyddyn. Bydd y wefan yn declyn i gefnogi Hyfforddiant Prosiect Hawl a Gwasanaethau Ymgynghori Canllaw Online. Y cyfeiriad fydd www.infooutlets.com
Cysylltwch â infooutlets@Canllaw Online.com

Canllaw Online yw aelod Cymru o Asiantaeth Hysbysiaeth a Chynghori Ieuenctid Ewropeaidd holl-Ewropeaidd.