Hyfforddiant
Mewn cydweithrediad â’r Cynllun Nod Ansawdd,
mae’n ofynnol i’r gweithiwr dynodedig ym mhob
ffynhonnell gwblhau hyfforddiant lefel 3 RhCA yng “Nghyflwyno
Gwaith Gwybodaeth i Bobl Ifanc”. Mae Canllaw Online
yn cynnig cefnogaeth ac ymgynghoriaeth i gynorthwyo gweithwyr
y ffynonellau parthed cyflawni’r achrediad hwn. Hyd
yn hyn, mae Canllaw Online wedi cyflwyno hyfforddiant lefel
1 a 3 RhCA i 170 o weithwyr gwybodaeth yng Nghymru, gyda
chyllid ychwanegol ar gael drwy’r Coleg Staff. Mae
Canllaw Online yn cydweithio â’r partner Eurodesk
DU ac yn cyflwyno hyfforddiant Eurodesk i’r rhwydwaith
Ffynonellau Gwybodaeth.
Mae Canllaw Online hefyd yn cynnig hyfforddiant i bobl ifanc,
megis “Hyfforddiant Cerdyn Gostyngiad Pris gyda Phobl
Ifanc” a “Gwasanaethau ar y Rhyngrwyd i Bobl
Ifanc”. Mae pob cwrs wedi’i lunio’n broffesiynol
ac wedi’i gyflwyno gan hyfforddwyr profiadol a phroffesiynol.
Pecynnau Hyfforddiant Canllaw Online:
Mae’r canlynol i gyd yn enghreifftiau o becynnau hyfforddiant
sydd ar gael drwy Hyfforddiant Prosiect “Entitlement”Canllaw
Online:
- Cyflwyniad i Waith Gwybodaeth gyda Phobl Ifanc (RhCA
Lefel 1)
- Cyflwyno Gwaith Gwybodaeth i Bobl Ifanc (RhCA
Lefel 3)
- Gwasanaethau Gwybodaeth ar y Rhyngrwyd i Bobl
Ifanc
- Ymgynghori â Phobl Ifanc
yng nghyd-destun Gwasanaethau Gwybodaeth
- Hyfforddiant Cerdyn
Gostyngiad Pris gyda Phobl Ifanc
- Medrau Ysgrifennu i Bobl
Ifanc
|
Mae cynnwys y pecynnau hyfforddiant uchod yn adlewyrchu rhai
o’r meini prawf gwasanaeth sy’n ofynnol gan Gynllun
Nod Ansawdd Canllaw Online er mwyn gweithio fel Canolfan INFO
Canllaw Online gofrestredig.
Mae Canllaw Online yn adolygu ei waith yn y maes hwn yn barhaus
ac mae ganddo grwp llywio cenedlaethol sy’n rhannu arfer
dda ac yn trafod materion a godir ar lefelau rhanbarthol a
lleol. Mae’r grwp hwn yn cwrdd bob chwarter.
|