|
Mae’r wefan Doeth1520 yn rhoi mynediad i bobl ifanc
i’r wybodaeth angenrheidiol pryd bynnag y mae ei hangen
arnynt. Wedi’i diweddaru’n ddyddiol, y mae’n
rhoi iddynt fynediad i’r newyddion a’r gwybodaeth
ddiweddaraf. Mae’r wefan yn cynnwys cyfres o gronfeydd
data, gan ei gwneud yn ddeinamig ac yn hygyrch. Categoreiddir
y wybodaeth ym Mynegai Gwybodaeth Canllaw Online a gellir
chwilio amdani drwy benawdau ac allweddeiriau.
Mae’r brif gronfa ddata gwybodaeth yn cynnwys dros
370 o bynciau gwybodaeth a thros 600 o gysylltiadau â sefydliadau
perthnasol. Mae personoli yn golygu bod pobl ifanc yn gallu
cael mynediad i wybodaeth sydd wedi’i theilwra i gwrdd â’u
diddordebau, eu hoedran a’u lleoliad daearyddol arbennig.
Yr oedd gwefan Doeth1520 Canllaw Online yn rownd derfynol
ranbarthol Gwobrau E-fasnach y DU 2002 ac yn rownd derfynol
Her yr Ifanc Byd Eang a gynhaliwyd yn Rhufain ym mis Rhagfyr
2002.
Mae gan y wefan yr adrannau canlynol:
Newyddion – newyddion dyddiol, yn cynnwys penwythnosau
a gwyliau banc, o bob man yn y Byd, Ewrop, y DU a Chymru.
Mae hon yn adran hanfodol, sydd yn rhoi’r hysbyiaeth
ddiweddaraf i bobl ifanc am yr hyn sy’n digwydd yn
lleol yn ogystal ag ehangu gorwelion. Mae hefyd yn golygu
bod Canllaw Online yn cadw golwg ar y newyddion yn barhaus
am unrhyw newidiadau i ddeddfwriaeth neu gwybodaeth, a golyga
hynny ein bod yn gallu cadw i ddiweddaru’r gronfa ddata
gwybodaeth yn gyson. Cynhyrchir tua 1,456 o erthyglau newyddion
bob blwyddyn.
Erthyglau nodwedd – bob wythnos postir erthygl nodwedd
newydd, yn rhoi gwybodaeth i bobl ifanc am fater cyfredol
megis pwysau arholiadau yn y Gwanwyn, teithio yn yr Haf,
diogelwch personol yn yr Hydref pryd y bydd y clociau’n
mynd yn ôl, a chwaraeon a maeth yn y Flwyddyn Newydd.
Rhydd yr erthyglau hyn wybodaeth gefndirol a chysylltiadau â sefydliadau
arbenigol lle y gall pobl ifanc gael mwy o wybodaeth. Mae
rhai o’r erthyglau nodwedd hyn wedi’u hysgrifennu
gan bobl ifanc. Cynhyrchir tua 52 o erthyglau bob blwyddyn.
Cystadlaethau – mae cystadlaethau yn denu pobl ifanc
i’r wefan, a chan fod yr ateb i’r cwestiwn bob
amser yn yr erthygl nodwedd, yn rhoi gwybodaeth iddynt. Mae
cystadlaethau blaenorol wedi cynnwys ymweliad â’r
Cynulliad i gwrdd â Jane Davidson, y Gweinidog Addysg
a Dysgu Gydol Oes, ymweliad â Brwsel gydag Eurig Wyn
ASE, setiau o lyfrau gan Scholastic a thocynnau i wyl haf.
Cynhelir tua 52 o gystadlaethau bob blwyddyn.
Pleidlais – bob wythnos byddwn hefyd yn gofyn i bobl
ifanc am yr hyn y maent yn ei feddwl drwy’r bleidlais.
Ar y cyfan, bydd y rhain wedi’u cysylltu â phwnc
yr erthygl nodwedd, ond weithiau byddant yn gysylltiedig â’r
hyn sy’n cael ei drafod yn y cyfryngau. Byddwn hefyd
yn cynnal pleidlais ar yr Ewro yn rheolaidd. Cynhelir tua
52 o bleidleisiau bob blwyddyn.
|
Sgwrsio a Fforwm – mae ystafell sgwrsio Canllaw Online
yn unigryw gan ei bod yn rhoi cyfle i bobl ifanc siarad yn
uniongyrchol ag arbenigwyr am faterion penodol. Unwaith eto
yn gysylltiedig â phwnc yr erthygl nodwedd, mae pobl
ifanc hyd yma wedi cael cyfle i holi ymgeiswyr y Cynulliad
o’r holl brif bleidiau gwleidyddol wythnosau cyn yr etholiad,
arbenigwr teithio o Gyhoeddiadau Lonely Planet, arbenigwr haul
diogel o Cancer Research UK, arbenigwyr iechyd rhyw o Ysbyty
Brenhinol Gwent ac Ymgynghorydd Gyrfaoedd Cymru. Rhydd y fforwm
gyfle i bobl ifanc ddatgan eu barn am yr hyn sydd yn y newyddion,
y bleidlais neu unrhyw beth arall. Cymedrolir y sgwrs a’r
fforwm. Cynhelir lleiafswm o 52 o sgyrsiau bob blwyddyn.
Beth sydd yn digwydd – rhestr o ddigwyddiadau ledled
Cymru.
Llinellau Cymorth – mae fersiynau e-bost o linellau
cymorth Cyngor Cyfreithiol a Chefnogaeth Bersonol ar gael.
Canolfannau INFO – rhestr o’r canolfannau INFO
ledled Cymru, gyda’u manylion cyswllt a’u cyfeiriadau,
i helpu pobl ifanc i ddod o hyd i’r ganolfanl agosaf.
Gostyngiadau Pris – rhestr o ddarparwyr gostyngiadau
Ewro<26 yn ôl enw, gan roi manylion am y cynigion
sydd ar gael i berchnogion cardiau. Mae tua 300 o ostyngwyr
pris yng Nghymru.
Islwythiadau – lle y gall pobl ifanc lwytho i lawr gopïau
o gyhoeddiadau a dogfennau a grëir gan Canllaw Online,
megis canllawiau ar gyfer awduron ifanc.
Amdanom ni – Gwybodaeth am Canllaw Online
Cysylltiadau – rhestr o dros 600 o uwchgysylltiadau
i fynd â’r defnyddiwr i wefannau defnyddiol eraill
sy’n berthnasol i bynciau diddordeb arbennig. Caiff cysylltiadau
eu graddio o ran manylrwydd a gwybodaeth, diogelwch, hygyrchedd
a dwyieithrwydd.
Ewch i wefan 1520 Canllaw Online yn
www.doeth1520.info
|