|

Sut Alla’ I?
Beth yw ‘Sut Alla’ I?’
Mae’r daflen ‘Sut Alla’ I’ ar gyfer
pobl ifanc rhwng 8 ac 13 oed yn rhoi gwybodaeth sylfaenol o
dan ddeg pennawd Mynegai Hysbysiaeth Canllaw Online. Datblygodd
Canllaw Online y daflen boster hon ar ran Llywodraeth Cynulliad
Cymru ar gyfer cyfres o ddigwyddiadau haf yn 2003. Nod y daflen
yw ateb cwestiynau y gall fod gan berson ifanc, megis ‘Sut
alla’ i fwynhau fy amser yn yr ysgol, edrych ar ôl
fy amgylchedd neu fanteisio’n llawn ar fy amser rhydd?’
Mantais:
Mae’r daflen hon yn cynnig gwasanaethau hysbysiaeth
i grwp oedran is, mewn ffordd sydd wedi’i thargedu’n
benodol ac yn berthnasol. Ei nod yw helpu pobl ifanc i ddeall
pethau fel yr angen am reolau ysgol, Cytundeb y Cenhedloedd
Unedig ar Hawliau’r Plentyn a hefyd rôl y Comisiynydd
Plant.
|