|

Clued Up – Be’ ‘di Be’
Beth yw Clued Up – Be’ ‘di Be’?
Comisiynwyd Canllaw Online gan TEC De-ddwyrain Cymru i gyflwyno’r
prosiect ‘Be’ ‘di Be’, a ehangwyd wedyn
yn fenter Cymru gyfan gan ELWa, gyda’r nod o greu cyfeirlyfr
i bobl ifanc o wasanaethau yn eu hardal. Yn 2002, cynhyrchwyd
saith fersiwn rhanbarthol o’r llyfryn o faint cerdyn
credyd, gan restru rhifau cyswllt, cyfeiriadau e-bost a gwefannau,
wedi’u teilwra i bob rhanbarth. Mae’r llyfryn hefyd
yn defnyddio penawdau Mynegai Hysbysiaeth Canllaw Online fel
arweiniad, a cheir yn y daflen fanylion cyswllt ar gyfer ysgolion,
darparwyr hyfforddiant, prosiectau amgylcheddol lleol, Aelodau’r
Cynulliad ac Aelodau Seneddol, clinigau cynllunio teulu, Gwasanaethau
Iechyd, Cymdeithasau Tai, sefydliadau Cefnogi Dioddefwyr, Canolfan
Cynghori’r Cyhoedd a Llyfrgelloedd.
Mantais:
Mae “Be’ ‘di Be” yn daflen y gall
pobl ifanc ei chario o gwmpas a chael mynediad iddi pryd bynnag
y maent eisiau rhif ffôn. Mae’r 7 fersiwn rhanbarthol
yn golygu y gallant gael gwybodaeth wedi’i theilwra i
ble maent yn byw heb gyfyngu mynediad i wasanaethau a all fod
mewn awdurdod lleol arall er enghraifft.
|
|
|