|

“Visions”:
Beth yw “Visions”?
Mae’r prosiect “Gweledigaethau mewn Hysbysiaeth
Ieuenctid” a ariennir gan y Rhaglen IEUENCTID wedi’i
lunio i werthuso dyfodol gwasanaethau hysbysiaeth i bobl ifanc
yn y deng mlynedd nesaf ledled Ewrop.
Bydd cynrychiolwyr o’r naw gwlad Ewropeaidd cyfrannog
yn mynychu cynhadledd ym mis Medi 2003 i drafod gwasanaethau
hysbysiaeth ieuenctid a chyfryngau eu cyflwyniad yn genedlaethol
ac yn Ewropeaidd. Byddir yn cofnodi’r casgliadau ar ffurf
adroddiad a chynllun gweithredu a weithredir gan bob un o’r
naw gwlad.
Canllaw Online yw’r partner cydlynu ar gyfer Cymru ac
mae’n gweithio gyda’r rhwydwaith Ffynonellau Hysbysiaeth
i wireddu’r prosiect hwn.
Mantais i Gymru:
Bydd Cymru yn rhan o fforwm rhyngwladol â’r dasg
benodol o ddadansoddi gwasanaethau hysbysiaeth cyfredol i bobl
ifanc, gyda’r bwriad o barhau eu datblygiad a gwelliant
eu cynnwys a’u cyflwyniad yn y deng mlynedd nesaf.
|