datblygu a chefnogi gwasanaethau gwybodaeth i bobl ifanc
hafan ynglyn a canllaw online tim canllaw online gwerthoedd ac Egwyddorion Craidd swyddi mentrau eraill
cysyllta ni cysylltiadau telerau ac amodau polisi preifatrwydd English
 

 

Sut Alla’ I? | Clued Up – Be’ ‘di Be’ | Ask it | Visions | Cyfnewid Ieuenctid: Romania | CHSLl |
Cynadleddau Ewropeaidd ar gyfer Hysbysiaeth Ieuenctid

 


Cyfnewid Ieuenctid: Romania

Beth yw “Cyfnewid Ieuenctid Romania”?

Mae “Cyfnewid Ieuenctid Romania” yn brosiect Rhaglen IEUENCTID a ariennir gan y Comisiwn Ewropeaidd. Prif nod y prosiect “Cyfleoedd Ewropeaidd i Bobl Ifanc a Chyfranogiad mewn Polisïau Cymdeithasol Ieuenctid” yw casglu nifer o bobl ifanc o gefndiroedd diwylliannol, economaidd a chymdeithasol gwahanol ynghyd – cyfranogwyr o wledydd o’r UE ac o wledydd y tu allan i’r UE (cyn-ymuno) – i rannu profiadau a syniadau parthed cael mynediad i’r gwahanol gyfleoedd a gyflwynir iddynt – ym maes diwylliant, hysbysiaeth, gwasanaethau a nwyddau.

Mae’r grwp (sy’n cynnwys y gwledydd canlynol: Romania, Cymru, Gwlad Pwyl, Lwcsembwrg, yr Eidal ac Estonia) yn dysgu oddi wrth ei gilydd sut y datblygir polisi ieuenctid cymdeithasol ym mhob gwlad, a sut y mae’n cael effaith ar bobl ifanc.

Bydd prif themâu’r prosiect – celf a diwylliant – yn elfen gref yn ystod y prosiect cyfnewid rhyngddiwylliannol. Nod y prosiect fydd hybu ymwybyddiaeth Ewropeaidd a datblygu perthnasau traws-genedlaethol er mwyn cyrraedd diben cyffredin – integreiddiad Ewropeaidd a chyfranogiad gweithredol pobl ifanc wrth ddatblygu polisïau cymdeithasol.

Manteision i Gymru:

Y dyhead y tu ôl i’r cyfnewid amlochrog yw hysbysu pobl ifanc am arferion Ewropeaidd parthed cyfathrebu a hysbysiaeth ym maes ieuenctid, gwybodaeth a hawliau sylfaenol dinasyddion Ewropeaidd. Hefyd, tanlinellu pwysigrwydd casglu gwybodaeth newydd parthed hawliau sylfaenol Ewropeaidd a chyfranogiad pobl ifanc mewn gweithgareddau buddiol iddynt.

 

Mae Canllaw Online yn gweithio mewn partneriaeth ag Immtech i alluogi naw person ifanc sy’n teithio i Romania i wneud fideo am yr holl bynciau uchod. Byddant hefyd yn cael eu hannog i ysgrifennu erthyglau a gwneud rhaglenni dogfen am eu profiadau, eu hargraffiadau o le maent yn perthyn yn bersonol yn Ewrop, o le y mae eu gwlad yn perthyn a sut y maent yn perthyn yn genedlaethol. Byddant hefyd yn rhoi eu cyngor am ba feysydd y maent yn credu y dylid eu targedu.