datblygu a chefnogi gwasanaethau gwybodaeth i bobl ifanc
hafan ynglyn a canllaw online tim canllaw online gwerthoedd ac Egwyddorion Craidd swyddi mentrau eraill
cysyllta ni cysylltiadau telerau ac amodau polisi preifatrwydd English
 

 

Sut Alla’ I? | Clued Up – Be’ ‘di Be’ | Ask it | Visions | Cyfnewid Ieuenctid: Romania | CHSLl |
Cynadleddau Ewropeaidd ar gyfer Hysbysiaeth Ieuenctid

 


Cynadleddau Ewropeaidd ar gyfer Hysbysiaeth Ieuenctid

Beth yw “Cynadleddau Ewropeaidd ar gyfer hysbysiaeth Ieuenctid”?

Amcan “Cynadleddau Ewropeaidd ar gyfer hysbysiaeth Ieuenctid”, rhaglen a ariennir gan LABEL GUIDEurope, yw rhannu arferion ymysg Darparwyr Gwasanaeth Hysbysiaeth Pobl Ifanc i hwyluso dosbarthiad hysbysiaeth yn rhad ac am ddim o fewn Ewrop agored a hyrwyddo mynediad i raglenni ieuenctid Ewropeaidd.

Mae’r amcan i’w gyflawni drwy rannu arferion gwaith, prosiectau a syniadau gan yr wyth gwlad sy’n cymryd rhan yn y rhaglen – Ffrainc, Portiwgal, yr Eidal, Slofenia, Gwlad Belg, Norwy, Sweden a Chymru – drwy gynadleddau blynyddol, rhaglenni hyfforddiant, cyfleoedd cysgodi swydd, cyfnewid ieuenctid a datblygiad gwefan ryngweithiol.

Canllaw Online yw’r partner ar gyfer Cymru ac mae wedi gweithio gyda chynrychiolwyr o’r sectorau statudol, gwirfoddol ac annibynnol i wireddu’r prosiect hwn.

Manteision i Gymru:

Drwy rannu arferion gwaith a chrynhoi gwybodaeth gan yr wyth gwlad Ewropeaidd sy’n cymryd rhan, bydd pobl ifanc yng Nghymru yn cael budd o ddatblygiad gwasanaeth hysbysiaeth sydd wedi’i ehangu ymhellach – gan gynyddu ymwybyddiaeth o amlygiad dinasyddiaeth Ewropeaidd, a darparu cyfleodd i gyfranogi mewn digwyddiadau wedi’u llunio’n benodol i gynyddu ymwybyddiaeth a symudedd Ewropeaidd, megis cyfnewid ieuenctid a digwyddiadau â themâu iddynt.

 

Bwydir profiadau a barn y bobl ifanc sy’n cymryd rhan i mewn i’r Gwasanaethau Hysbysiaeth i Bobl Ifanc, yng Nghymru ac yn y gwledydd Ewropeaidd sy’n cymryd rhan.