|

MAE’R
BOLISI PREIFATRWYDD HYN YN CAEL EU DEFNYDDIO AR GYFER HOLL
WEFANNAU CANLLAW ONLINE. MAE GAN BOB GWEFAN DDOGFEN
EI HYN HEFYD GYDA GWYBODAETH BENODOL AR GYFER Y WEFAN HYNNY.
DYLIR FYND I’R WEFAN HYNNY I WELD Y DDOGFENNAU YMA
DOETH
INFOOUTLETS
CREDU
Mathau o wybodaeth a gesglir gennym a sut rydym yn
eu casglu Weithiau,
bydd Canllaw eisiau gwybodaeth bersonol pobl. Dim
ond os yw hi'n wybodaeth hanfodol y byddwn ni'n casglu'r
math yma o wybodaeth.Rydym ond yn defnyddio 'cookies' ar
gyfer y
Bleidlais.. Rydym yn defnyddio ffurflenni electronig a defnyddiwr
Gwefan Canllaw ("ti") sydd i benderfynu a wyt ti
am eu llenwi nhw.
Mathau o wybodaeth
Arolygon - nid ydym yn gofyn am wybodaeth
bersonol ar gyfer arolygon. Er mwyn gwella'r wybodaeth yr
ydym yn ei darparu
a rhoi'r wybodaeth yr wyt ti'n dymuno ei chael rydym
yn defnyddio'r wybodaeth hon. Wrth i wasanaethau Canllaw ehangu,
bydd mwy
o gyfleoedd i ehangu'r gwasanaethau a ddarperir i ti.
O
bryd i'w gilydd gall Canllaw ddarparu manylion am wasanaethau
a chynnhyrtion eraill Canllaw a allai fod o ddiddordeb
i
ti a
chynnig cyfle i ti edrych arnynt neu dderbyn gwybodaeth
amdanynt. Gall Canllaw hefyd gynnig cyfle i ti gymryd
rhan mewn arolygon
a gynhelir gan Canllaw neu ei asiantau sy'n helpu ymchwil
Canllaw i'r mathau o wasanaethau y mae Canllaw yn eu
cynnig. Bydd Canllaw
yn cadw cofnod o'r wybodaeth a ddarperir gennych. Sylwer
mai dim ond o fewn Canllaw y bydd unrhyw wybodaeth y
byddi ti'n
ei rhoi i Canllaw yn cael ei defnyddio ac ni fydd yn
cael ei rhoi i drydydd parti (ar wahân i fel y nodir yn
y ddogfen hon) heb gael dy ganiatâd ti'n gyntaf.
Yr unig bryd y gallwn wneud hynny yw os ydym yn cael ein
gorfodi yn ôl
y gyfraith i ddatgelu gwybodaeth.
Cystadlaethau - byddwn yn gofyn am dy enw a cyfeiriad er mwyn
anfon y wobr atoch ti os enilli di. Os na roi di'r manylion
hyn i ni, ni fyddwn yn gallu anfon y wobr ato ti. Byddwn yn
gofyn i ti os wyt ti eisiau ragor o wybodaeth amdano ni neu'r
cwmni sy'n rhedeg y gystadleuaeth. Os wyt ti, fe wnewn ni ddanfon
dy fanylion i'r cwmni, os na, byddwn yn eu dileu yn llwyr oddi
ar ein ffeiliau.
Eich sylwadau - os oes angen ateb i'ch sylw
neu gwestiwn rhaid i ti gynnwys dy gyfeiriad e-bost neu ni
fyddwn yn gwybod at
bwy i anfon yr ymateb. Os wyt ti'n dymuno gwneud sylw ond
heb angen ateb, nid oes rhaid i ti roi dy gyfeiriad e-bost.
Os
nad allwn ni ateb dy gwestiynau, byddwn yn eu trosglwyddo
i rywun sy'n gallu, yn yr achos hwn dim ond beth oedd y cwestiwn
byddwn ni'n rhoi gwybod iddynt a dim am y person a ofynnodd
y cwestiwn. Dim ond i un o'n sefydliadau partner y byddwn
ni'n
trosglwyddo'r cwestiynau. Yn y rhan fwyaf o achosion byddant
wedi arwyddo cytundeb gyda ni yn dweud y byddant yn gwneud
eu gorau glas i ateb dy gwestiynau. Byddwn yn egluro pwy
yw'r sefydliad partner perthnasol ym mhob adran o'r Wefan.
Sgyrsfeydd- byddwn yn cynnal sgyrsfeydd a byddwn yn gwneud
ymdrech resymol i fonitro eu cynnwys. Ni fydd y cymedrolydd
yn sensro eich sylwadau ond ni fydd yn postio unrhyw sylwadau
sy'n dramgwyddus. Byddwn yn gofyn i ti am lysenw fel y galli
di sgwrsio heb roi dy enw. Tra'n defnyddio ein sgyrsfa cymera
ofal i beidio â datgelu unrhyw wybodaeth bersonol er
enghraifft dy enw, cyfeiriad, rhif ffôn, ysgol neu unrhyw
wybodaeth arall a allai roi gwybod i rywun pwy wyt ti. Rydym
yn dy atgoffi bod y sgyrsfeydd yn fforymau ar gyfer trafodaeth
gyhoeddus a bydd unrhyw wybodaeth bersonol a roddwyd gennyt
yn ystod y trafodaethau hyn ar gael ar lefel eang. Nid yw Canllaw
yn gyfrifol am y cynnwys a bostiwyd gan ddefnyddwyr y gwasanaethau
hyn.
Cylchlythyr e-bost - bydd angen i ni gael dy enw a chyfeiriad
e-bost i anfon y cylchlythyr e-bost ato ti. Os nad wyt ti
bellach eisiau derbyn y cylchlythyr hwn hysbysa'r webmaster@canllaw-online.com
a byddwn yn dileu dy fanylion o'n ffeiliau yn llwyr.
Pleidlais
- Rydym yn defnyddio cookies ar gyfer y bleidlais i sicrhau
bod mai dim ond unwaith mae rhywun yn gallu pleidleisio.
Efallai, os wyt ti'n defnyddio cyfrifidaur yn yr ysgol
er enghraifft, fe fydd rhywun wedi defnyddio'r cyfrifiadur
i
bleidleisio yn
barod, felli fyddi di ddim yn gallu.Os ydy hyn wedi digwydd
fe alli di ofyn i'r person sy'n gyfrifol am y ganolfan
i ddileu'r 'cookie'. Os mae na broblem gyda hyn fe elli di
alw Canllaw
Online ar 029 2088 7868.
Deunydd a lawrlwythir - ni chesglir
unrhyw wybodaeth
E-bostia y dudalen hon at ffrind - nid ydym
yn casglu unrhyw ddata drwy hyn.
Dy cyfeiriad IP sy'n cael
ei gofnodi'n awtomatig gan weinydd gwe (webserver) Canllaw
a fydd yn cael ei ddefnyddio'n
unig i sylwi ar dyddiddordebau yng Ngwefan Canllaw.
'Cookie' yw ffeil testun bach y gall gwefan ei gosod ar yriant
caled eich cyfrifiadur er mwyn, er enghraifft, casglu gwybodaeth
ynglþn â'ch gweithgareddau ar y safle neu ei gwneud
hi'n bosibl i ti ddefnyddio 'basged siopa' ar-lein i gadw golwg
ar yr eitemau yr wyt ti'n dymuno eu prynu. Mae'r cookie yn
trosglwyddo'r wybodaeth hon yn ôl i gyfrifiadur y wefan
a dim ond y cyfrifiadur hwn fel arfer sy'n gallu ei darllen.
Nid yw'r rhan fwyaf o ddefnyddwyr yn gwybod bod 'cookies' yn
cael eu gosod ar eu cyfrifiaduron wrth iddynt ymweld â gwefannau.
Os wyt ti am wybod pryd mae hyn yn digwydd, neu os wyt am ei
atal rhag digwydd, gallwch osod
|
|
Defnyddwyr o Dan 18 oed
Os wyt ti o dan 18 oed, sicrha dy fod
yn cael caniatâd
dy rhiant/gwarcheidwad ymlaen llaw pryd bynnag yr wyt yn darparu
gwybodaeth bersonol i Wefan Canllaw. Nid oes hawl gan ddefnyddwyr
sydd heb gael y caniatâd hwn i ddarparu gwybodaeth
bersonol i ni.
Pwy sy'n casglu'r Gwybodaeth?
Mae www.canllaw-online.com a'r
holl wybodaeth a gesglir yn cael eu rheoli gan dîm
staff Canllaw a dim ond trwy gyfrinair y gellir cael mynediad
i'r
holl ffeiliau.
Sut defnyddir y wybodaeth bersonol?
Cesglir yr holl wybodaeth
bersonol am reswm penodol a byddwn yn dy hysbysu beth yw
hynny, neu mi fydd hi'n amlwg
i ti beth fydd y pwrpas hwnnw. Byddwn
yn gofyn i ti a wyt ti eisiau cadw dy enw ar ein rhestr bostio, os
nad wyt ti eisiau cael rhagor o wybodaeth gennym ticia'r blwch
a bydd dy fanylion
yn cael eu dileu ar ôl i ni brosesu dy gwestiwn,
cofnod cystadleuaeth ac ati.
Os byddwn yn gwneud unrhyw
newidiadau sylweddol yn y ffordd yr ydym yn defnyddio
dy wybodaeth bersonol
byddwn yn rhoi gwybod i ti drwy bostio
cyhoeddiad amlwg
ar ein tudalennau.
Diogelwch Data
Rydym wedi cymryd camau priodol i gadw dy manylion
yn ddiogel ac ni fyddwn yn datgelu unrhywbeth i drydydd parti
heb
dy ganiatâd.
Cysylltiadau i Wefannau eraill.
Mae Gwefan Canllaw yn cynnwys
cysylltiadau i safleoedd eraill sydd heb unrhyw gysylltiad â Chanllaw.
Nid yw'r datganiad preifatrwydd hwn yn gymwys i'r safleoedd
hynny ac nid yw Canllaw yn gyfrifol am gynnwys ac arferion
y
Gwefannau hynny.
Eich data personol
Bydd Canllaw yn cadw dy wybodaeth bersonol
ar systemau Canllaw tra byddi di'n defnyddio'r gwasanaeth
yr wyt ti wedi gofyn amdano,
ac
yn ei dynnu
i ffwrdd
os bydd y pwrpas wedi'i ddiwallu, neu os nad wyt ti bellach
yn dymuno parhau i fod ar y gofrestr fel defnyddiwr personoledig.
Mae
gennyt hawl i ofyn am gopi o'r wybodaeth bersonol y mae Canllaw
yn cadw amdanoch ti ac mae gennych hawl i gael mynediad
i'r wybodaeth
y
mae Canllaw
yn ei chadw amdanoch ti ac i newid y wybodaeth lle bo angen.
Rwyt ti hefyd yn gallu ofyn i ni ddileu, newid neu ddiweddaru
eich data
ar
unrhyw adeg.
Mae Canllaw yn cadw'r hawl i godi tâl am geisiadau
am wybodaeth.
Os oes gennych unrhyw sylwadau, cysylltwch â ni:-
Canllaw
Online Cyf.
Suite 5, Yr Octagon
Llys Van
Parc Busnes Caerffili
Heol Van
Caerffili
CF83 3ED
029 2088 7868
webmaster@canllaw-online.com
Mae Canllaw yn cadw'r hawl,
ar unrhyw adeg, i addasu, newid neu ddiweddaru'r polisi
preifatrwydd hwn.
|