|

Enw:
Ashley Dunscombe
Teitl dy swydd:
Dylunydd Graffeg a Rheolwr y Llinell Gymorth
e-bost:
ashleydunscombe@canllaw-online.com
Rhif cyswllt:
029 20 853184
Beth dwi'n gwneud yn Canllaw Online:
Fi sy'n dylunio rhan fwyaf o'r graffeg yn Canllaw Online, megis posteri, llyfrynnau, taflenni ayyb. Fi yw rheolwr Llinell Gymorth CREDU a dwi'n diweddaru gwefannau Canllaw Online, gan gynnwys porth CREDU. Fel pawb yn Canllaw Online, dwi'n helpu allan mewn ardaloedd eraill pan fo angen.
Pam mai fi yw'r person gorau ar gyfer y swydd yma:
Dwi'n credu taw fi yw'r gorau! O ddifri nawr, dwi'n credu fy mod i'n gallu gwneud y tasgau mae fy swydd yn cynnwys yn dda. Dwi'n hoffi meddwl fy mod i'n gymwys ar ôl gwneud NVQ Lefel 3 mewn TGCh tra'n gweithio yn Canllaw Online. Dwi hefyd yn dda yn cyfathrebu gyda phobl ac yn gweithio mewn awyrgylch swyddfa. Ond un rhybudd, dwi'n gwneud coffi a te gwael!
Pam Canllaw Online a gwybodaeth i bobl ifanc:
Wel mae'n stori ddoniol a dweud y gwir; fe ddes i Canllaw yn wreiddiol i wneud NVQ lefel 3 mewn TGCh a cefais gynnig y swydd ar fy ail niwrnod. Doeddwn i byth yn credu y byddwn i'n gweithio yn y math yma o swydd neu hyd yn oed yn cael swydd ar yr amser hynny, ond mae'r profiad wedi agor fy llygaid a dwi wedi mwynhau pob munud. O, a mae'r tîm yma yn WYCH!
Beth wnes i cyn Canllaw Online:
Treuliais y rhan fwyaf o fy amser adref ar ôl gorffen ysgol, gan fwyaf yn gwneud gwaith gwedd ar gyfer addasiadau gemau a chynllunio gwefannau. Dysgais sut i ddefnyddio llawer o raglenni yn y cyfnod hynny megis Adobe Photoshop, Dreamweaver a Flash. Yna es ymlaen i wneud NVQ lefel 1 & 2 mewn TGCh ac ar ôl hynny glaniais yma ar blannet Canllaw ble cefais fy nghadwyno i ddesg. Dim ond jocio dwi!
Beth dwi eisiau gwneud, ond heb wneud eto:
Dwi wastad wedi eisiau gweithio yn y diwydiant gemau fideo, falle'n gwneud gwaith gwedd neu'n cynllunio gemau.
Beth oeddwn i eisiau bod pan oeddwn i'n fach:
Lleiddiad, Power Ranger, Pokemon Master - roedd yna lawer.
|
|
Hoff fan gwyliau:
Cancun, Mecsico.
Hoff bryd o fwyd:
Sgampi & Sglodion
Hoff gymeriad cartwn:
Cartman o Southpark - mae popeth mae e'n dweud yn gwneud i mi chwerthin!
Hoff albwm:
The Chronic 2001 gan Dr Dre; dyma'r unig albwm dwi wedi gwrando ar drosodd a throsodd gen sgipio cân.
Hoff artist cerddoriaeth:
Ar hyn o bryd, Snoop Dogg.
Hoff lyfr:
Dwi ddim yn rhy hoff o ddarllen, ond o'r ychydig lyfrau dwi wedi darllen rhaid iddo fod Of Mice and Men.
Hoff ffilm:
The 5th Element.
Unrhyw ffobiâu rhyfedd?
Dwi'n ofni bydd technoleg un diwrnod yn goresgyn dynolryw!
Beth hoffwn rhoi mewn i Room 101:
Cywirdeb Gwleidyddol
Mae'r farn yn y cyfweliad hwn yn perthyn i'r atebwr a nid ydynt o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn Canllaw Online.
|