|

Enw:
Chris Morgan
Teitl dy swydd:
Swyddog Prosiect "Bod yn Ifanc ac yn..."
e-bost:
chrismorgan@canllaw-online.com
Rhif cyswllt:
07977203838
Beth dwi'n gwneud yn Canllaw Online:
Helpu pobl ifanc i gyfleu eu profiadau a theimladau yn ymwneud a materion sy'n effeithio arnyn nhw trwy straeon digidol.
Pam mai fi yw'r person gorau ar gyfer y swydd yma:
Dwi'n dod o gefndir gwaith ieuenctid gyda diddordeb penodol mewn cyfryngau digidol. Dwi wedi gweithio ar brosiectau cerddoriaeth, ffilm ac animeiddio gyda phobl ifanc mewn amrywiaeth o leoliadau gan gynnwys carchardai ac ysgolion (ydyn nhw'r un fath?).
Pam Canllaw Online a gwybodaeth i bobl ifanc:
Ni ellir amcangyfrif yn rhy isel gwerth gwybodaeth cytbwys er mwyn galluogi i bobl wneud dewisiadau a penderfyniadau gwybodus.
Beth wnes i cyn Canllaw Online:
Darlledu a cynyrchiadau byw ar y rhyngrwyd gyda www.superchannel.org/Y.I.K.E.S.TV ble gallu di fy ngweld wedi gwisgo fel môr-leidr...gyda barf.
Beth dwi eisiau gwneud, ond heb wneud eto:
Gweld y ddaear o'r gofod
Beth oeddwn i eisiau bod pan oeddwn i'n fach:
Cath
|
|
Hoff fan gwyliau:
Y gwely
Hoff bryd o fwyd:
Unrhyw beth sy'n cynnwys tshilis
Hoff gymeriad cartwn:
Tom allan o Tom and Jerry
Hoff albwm:
Dwi'n trio adfywio "Give me convenience or give me Death" gan Dead Kennedys ond falle taw Boney M bydd hi erbyn prynhawn 'ma
Hoff lyfr:
Ar hyn o bryd dwi'n darllen unrhyw beth gan James Hawes
Hoff ffilm:
Meet the Feebles (Peter Jackson cyn i Peter Jackson wneud pethau tylwyth teg)
Unrhyw ffobiâu rhyfedd?
Clip Art
Beth hoffwn rhoi mewn i Room 101:
Cacwn
Mae'r farn yn y cyfweliad hwn yn perthyn i'r atebwr a nid ydynt o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn Canllaw Online. |