datblygu a chefnogi gwasanaethau gwybodaeth i bobl ifanc
hafan ynglyn a canllaw online tim canllaw online gwerthoedd ac Egwyddorion Craidd swyddi mentrau eraill
cysyllta ni cysylltiadau telerau ac amodau polisi preifatrwydd English
 

 

 

 


Enw: 
Christian Jovetic  

Teitl dy swydd: 
Swyddog Rheoli Systemau Cyfathrebu & Data-bas

e-bost: 
christianjovetic@canllaw-online.com    

Rhif cyswllt:
029 20 853190

Beth dwi'n gwneud yn Canllaw Online:
Dwi'n gyfrifol am gynnal a  diweddaru data-bas mewnol yn cynnwys gwybodaeth am bawb sy'n ymwneud â Canllaw Online.  Dwi hefyd yn gweithio ar Llinell Gymorth CREDU yn darparu cefnogaeth i'r holl Labordai Digidol o amgylch y wlad.  Dwi'n gwneud ychydig o waith gyda Photoshop yn helpu i gynllunio delweddau ar gyfer rhai o'n cyhoeddiadau.  Ond, yn gyffredinol, dwi'n gwneud beth mae pobl yn gofyn ohonof ac yn helpu ble bynnag gallai. 

Pam mai fi yw'r person gorau ar gyfer y swydd yma:   
Pan wnes i adael ysgol fe wnes i astudio cyfrifiaduron yn y coleg.  O hwn dysgais yr egwyddorion sylfaenol gadawodd rhoddodd yr hyder i mi edrych am waith yn y diwydiant TG.  Felly, pan ddes i Canllaw Online gyda'r cymwysterau roedden wedi ennill yn y coleg a'r profiad roeddwn i wedi cael o weithio yn y sector Gyhoeddus a Phreifat, roedd fy sgiliau yn cyd-fynd â'r swydd roeddwn yn gwneud.   

Pam Canllaw Online a gwybodaeth i bobl ifanc: 
Gallwn i ddim gofyn am swydd gwell: nid yn unig ydw i'n mwynhau gwneud y swydd, ond mae yna bobl gwych o fy amgylch, sy'n gwneud y swydd yn haws. 
Mae fy nghydweithwyr yn ymrwymedig i helpu pobl ifanc ac mae hyn wedi bod yn rhywbeth roedd gen i ddiddordeb mewn yn y gorffennol, felly pan roeddwn yn ddigon lwcus gael y swydd yma yn gweithio gyda chyfrifiaduron ac yn helpu pobl ifanc roeddwn yn hapus dros ben.  Dwi'n cael teimlad o hunanwerth yn gwybod bod yr hyn dwi'n gwneud yn helpu pobl ac mae gallu cael hyn oll o swydd yn wych. 

Beth wnes i cyn Canllaw Online:
Dwi wedi cael ychydig o swyddi, yn amrywio o'r Canolfan Byd Gwaith yn rhedeg rheolaeth swyddi gweigion, i BT ble roeddwn yn gweithio mewn canolfan data diogel yn cefnogi cwmniau megis AOL a Pipex.  Dwi hefyd wedi gweithio i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn darparu cefnogaeth TG i aelodau'r cynulliad a'i staff. 

Beth dwi eisiau gwneud, ond heb wneud eto: 
Hoffwn deithio; dwi eisiau rhoi bag ar fy nghefn a gwagio fy nghyfrif banc a gweld faint o'r byd galla i weld. 

Beth oeddwn i eisiau bod pan oeddwn i'n fach:
Dylunydd Graffeg (Doeddwn i ddim yn blentyn normal)

 

 

 

 

 

 

Hoff fan gwyliau: 
Rhywle oer gyda llawer o eira i Eirfyrddio!

Hoff bryd o fwyd:
Selsig, Ffa pob a Sglodion

Hoff gymeriad cartwn: 
Jessica Rabbit

Hoff albwm:
Prodigy, Fat of the Land

Hoff artist cerddoriaeth:
Does dim un gen i

Hoff lyfr: 
Lord of the Rings

Hoff ffilm:
Shawshank Redemption

Unrhyw ffobiâu rhyfedd?
Dim ond y rhai arferol!

Beth hoffwn rhoi mewn i Room 101: 
Mullets

Mae'r farn yn y cyfweliad hwn yn perthyn i'r atebwr a nid ydynt o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn Canllaw Online.