|

Enw:
Elise Stewart
Teitl dy swydd:
Cyfarwyddwr
e-bost:
elisestewart@canllaw-online.com
Rhif cyswllt:
029 20 887868
Beth dwi'n gwneud yn Canllaw Online:
Ychydig o bopeth! Dwi'n hoffi popeth rydym ni'n gwneud felly dwi'n hoffi gwybod beth sy'n digwydd ym mhob adran! Fy mhrif swydd yn swyddogol yw goruchwylio a bod yn gyfrifol am holl weithgareddau'r sefydliad, cynllunio strategaethau, arian, rhyngweithio a chynaladwyedd ar gyfer y dyfodol (h.y. sicrhau bod ni'n gwneud yr hyn rydym ni'n gwneud yn dda a sicrhau bod ni'n gallu parhau i'w wneud)...
Pam mai fi yw'r person gorau ar gyfer y swydd yma:
Dwi ddim yn siwr taw fi yw'r person gorau, ond mae gen i brofiad ac arbenigrwydd helaeth yn y maes yma - mae'r rhan fwyaf o fy mywyd gweithio wedi cael ei dreulio yn gwneud y math yma o waith a dwi'n dysgu rhywbeth newydd bob diwrnod. Mae gen i frwdfrydedd enfawr am y gwaith ac mae hwn yn fy ngyrru ymlaen er gwaetha' herion anhygoel a dwi'n hynod o falch o'r hyn mae Canllaw Online wedi cyflawni hyd yn hyn, ond a dweud y gwir, dyma ble mae popeth yn dechrau; mae cymaint mwy i'w wneud.
Pam Canllaw Online a gwybodaeth i bobl ifanc:
Mae hwn yn syml: Dwi'n credu'n gryf bod gwell gwybodaeth yn arwain at dewisiadau bywyd gwell i bobl ifanc ac ethos Canllaw Online sy'n tarddu o fethodoleg Gwaith Ieuenctid yw, o bell ffordd, y ffordd gorau i ddatblygu a chyflwyno gwasanaethau gwybodaeth i bobl ifanc. Dwi'n falch fod yna sefydliad fel Canllaw Online sy'n gallu cymryd y gwaith yma ymlaen i bobl ifanc.
Beth wnes i cyn Canllaw Online:
Fe weithiais i Gyngor Ieuenctid Cymru am 10 mlynedd ble dechreuais fel y swyddog datblygu cyntaf yng Nghymru ar gyfer gwybodaeth ieuenctid; pan adawais Cyngor Ieuenctid Cymru roeddwn wedi symud i fyny i Bennaeth Gwasanaeth. Mae hefyd gen i 9 mlynedd o brofiad dysgu rhan amser yn y sector Addysg Bellach. Pan roeddwn i'n ifanc cefais amrywiaeth o swyddi dros dro o weithio mewn ffatri greision a ffatri powdr babi i lanhau storfeydd enfawr ac unedau diwydiannol ffatrioedd. Mae gen i hefyd brofiad o hunangyflogaeth. Mae'r holl swyddi dwi wedi gwneud wedi fy helpu i fod y person ydw i heddiw.
Beth dwi eisiau gwneud, ond heb wneud eto:
Pan roeddwn i'n ifanc iawn roeddwn i eisiau ysgrifennu a darlunio llyfrau straeon syml sy'n adlewyrchu bywyd bob dydd; mae'r awydd yno dal yng nghefn fy meddwl, ond mae'n anodd chwilio'r amser...falle un diwrnod.
Beth oeddwn i eisiau bod pan oeddwn i'n fach:
Yn denau, pert a phoblogaidd (Fe ystyriais cyfoethog hefyd ond doedd hwn ddim yn flaenoriaeth!)
|
|
Hoff fan gwyliau:
Y rhan fwyaf o leoedd yn Ffrainc - wrth gwrs, dwi'n hoffi Paris.
Hoff bryd o fwyd:
Cwestiwn da! Mae hwn yn eitha' anodd i mi; dwi'n hoffi pob math o fwyd ac mae chwilio rhywbeth dwi ddim yn hoffi yn amhosib ac felly mae dewis ffefryn hefyd yn anodd. Mae'n dibynnu ar os wyt ti'n olygu cwrs cyntaf, prif gwrs neu pwdin a pha dymor. Dyma grynodeb cloi. Dwi'n hoffi popeth o brydau syml megis ffa pob ar dost i prydau mwy cymhleth sy'n cymryd llawer o waith paratoi. Dwi'n hoffi cyw iâr yn enwedig pan mae'n cael ei grilio gyda llysiau wedi'i stemio. Pae pasta yn wych yn enwedig sbageti gyda pesto. Dwi'n hoffi eog a'r rhan fwyaf o bysgod - mae eog wedi'i botsio gyda salad yn hyfryd yn yr haf. Dwi'n hoffi prydau hen ffasiwn megis cawl, ffagots a pys a swp pys a ham yn y gaeaf. Gyda pwdinau, mae unrhyw beth siocled yn wych ond dwi hefyd yn mwynhau ffrwythau yn enwedig aeron ac ystod eang o gawsiau. Ydy hyn yn ddigon neu oed angen mwy o fanylion?
Hoff gymeriad cartwn:
Rhaid iddo fod yn Scooby Doo - dwi wedi tyfu fyny gyda fe. Yn meddwl am y peth, mae e'n hoff o'i fwyd hefyd - rhaid fod ei frechdanau haenog yn flasus dros ben.
Hoff albwm:
Avalon gan Roxy Music
Hoff artist cerddoriaeth:
Syr Tom Jones wrth gwrs
Hoff lyfr:
The British Museum is falling down gan David Lodge - darllenais i hwn flynyddoedd yn ôl a dwi'n cofio ei fod wedi gwneud i mi chwerthin yn ddi-stop.
Hoff ffilm:
Bambi.
Unrhyw ffobiâu rhyfedd?
Nag oes yn ffodus.
Beth hoffwn rhoi mewn i Room 101:
Mae llawer o bethau yn dod i fy meddwl - fe gadwa i at rywbeth syml fel sbwriel a gwaredu'r byd o sbwriel di-angen.
Mae'r farn yn y cyfweliad hwn yn perthyn i'r atebwr a nid ydynt o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn Canllaw Online.
|