datblygu a chefnogi gwasanaethau gwybodaeth i bobl ifanc
hafan ynglyn a canllaw online tim canllaw online gwerthoedd ac Egwyddorion Craidd swyddi mentrau eraill
cysyllta ni cysylltiadau telerau ac amodau polisi preifatrwydd English
 

 

 

 


Enw: Lowri Lewis

Teitl dy swydd: Hwylusydd - Cyfieithu, Cynnwys & Monitro

e- bost: lowrilewis@canllaw-online.com

Rhif gyswllt: 02920 853187

Beth dwi'n gwneud yn Canllaw Online: Dwi'n cyfieithu cynnwys ar gyfer y wefan ac unrhyw bethau sy'n mynd allan o'r swyddfa megis llythyron, posteri ayyb, dwi hefyd yn sgwennu cynnwys ar gyfer y wefan a monitro'r 112 Labdigi ym mhrosiect CREDU.  Dwi hefyd ynghlwm â rhai prosiectau Ewropeaidd gyda EYCA (European Youth Card Association) ac ERYICA (European Youth Information and Counselling Agency) a dwi wedi cymryd rhan mewn cynadleddau yma yng Nghymru a mewn gwledydd eraill yn Ewrop.   

Pam mai fi yw'r person gorau ar gyfer y swydd yma: Cefais llawer o brofiad cyfieithu fel rhan o fy nghwrs brifysgol ac tra'n gweithio fel cyfieithydd ar gyfer yr undeb myfyrwyr.  Dwi hefyd wedi cael llawer o brofiad yn sgwennu cynnwys yn ystod fy nghwrs gradd a tra'n gweithio gyda Canllaw.  Dwi'n credu taw fi yw'r person cywir i fonitro'r 112 Labdigi am fy mod yn drefnus ac yn gallu bod yn hynod o daer pan fod pobl ddim yn danfon eu hadroddiadau i mewn!   

Pam Canllaw Online a gwybodaeth i bobl ifanc: Mae Canllaw Online yn gwmni gwych i weithio i, mae yna awyrgylch hamddenol yn y swyddfa ond mae pawb yn gweithio'n galed iawn ac mae pawb yn frwdfrydig am ddarparu'r wybodaeth gorau posib i bobl ifanc.  Mae gwybodaeth da a dibynadwy i bobl ifanc yn bwysig iawn fel bod nhw'n gallu gwneud penderfyniadau gwybodus.   

Beth wnes i cyn Canllaw Online: Fe es i Brifysgol Abertawe i astudio Almaeneg & Astudiaethau Busnes a treuliais flwyddyn yn astudio mewn prifysgol yn Bamberg, yr Almaen.  Roedd yn anodd iawn i mi lusgo fy hun i ffwrdd o fywyd myfyriwr ar ôl graddio felly arhosais yn Abertawe am dwy flynedd ar ôl graddio, yn byw gyda ffrindiau prifysgol ac yn gweithio am y chwe mis cyntaf mewn swyddfa cyfreithwyr ac am y flwyddyn a hanner nesaf mewn cwmni buddsoddiad.  Tra'n gwneud hynny fe wnes i astudio rhan amser am gymhwyster cyfieithu a dyma sut cefais swydd fel cyfieithydd yn Canllaw Online.    

Beth dwi eisiau gwneud, ond heb wneud eto: Nofio gyda dolffiniaid, dysgu Sbaeneg, teithio o amgylch America & Ewrop.   

Beth oeddwn i eisiau bod pan oeddwn i'n fach: Stiwardes Awyr

 

 

Hoff fan gwyliau: Fenis

Hoff bryd o fwyd: Does dim un gen i

Hoff gymeriad cartwn: Patrick o Spongebob Squarepants

Hoff albwm: Word Gets Around - Stereophonics

Hoff artist cerddoriaeth: Does dim wir gen i un hoff artist cerddoriaeth ond yn gyffredinol dwi'n hoffi popeth indie a roc.  

Hoff lyfr: How to be Good by Nick Hornby

Hoff ffilm: Four Weddings and a Funeral   

Unrhyw ffobiâu rhyfedd? Profion gwaed

Beth hoffwn rhoi mewn i Room 101: Bananas