datblygu a chefnogi gwasanaethau gwybodaeth i bobl ifanc
hafan ynglyn a canllaw online tim canllaw online gwerthoedd ac Egwyddorion Craidd swyddi mentrau eraill
cysyllta ni cysylltiadau telerau ac amodau polisi preifatrwydd English
 

 

 

 


Enw: 
Lynne Thomas         

Teitl dy swydd: 
Pennaeth Adran: Cynnwys, Systemau & Chyfathrebu

e-bost: 
lynnethomas@canllaw-online.com

Rhif cyswllt:
029 20 853185

Beth dwi'n gwneud yn Canllaw Online:
Fi yw pennaeth yr Adran Cynnwys, Systemau & Chyfathrebu ac mi rydw i yn gyfrifol am lenyddiaeth corfforaethol y cwmni, am y cyhoeddiadau ar gyfer pobl ifanc, am wefan y cwmni, am wefannau ar gyfer pobl ifanc, am wefannau corfforaethol, cronfeydd data & systemau mewnol a marchnata & chyfathrebu.  Rydw i hefyd yn trefnu Menter ar gyfer Ysgrifenwyr Ifanc ac yn rheoli perthynas y cwmni gyda EYCA (European Youth Card Association) a rhai o brosiectau Ewropeaidd y cwmni. 

Pam mai fi yw'r person gorau ar gyfer y swydd yma:   
Dwi'n mwynhau llenyddiaeth - dwi'n frwdfrydig iawn am ddarllen ac ysgrifennu - a dwi'n greadigol iawn hefyd.  Mae gen i brofiad o reoli nwyddau, sy'n cynnwys cysyniadu a gwireddu nwyddau, rheoli perthnasau cwsmeriaid a chyflenwyr a datblygu a gweithredu llwybrau critigol.  Yn fras, dwi'n 'control freak' creadigol sy'n hoffi siarad a sy'n gallu cadw'r peli yna yn yr awyr.  Perffaith ar gyfer Cynnwys, Systemau & Chyfathrebu.

Pam Canllaw Online a gwybodaeth i bobl ifanc: 
Mae Canllaw Online yn sefydliad sy'n rhoi pobl ifanc a'u anghenion gwybodaeth yng nghanol popeth maen nhw'n gwneud.  Mae Canllaw Online wastad yn ymdrechu i ddatblygu atebion newydd a dyfeisgar i anghenion gwybodaeth pobl ifanc ac mae'n edrych o hyd am ffyrdd i wella ei gwasanaethau a darpariaethau cyfredol.  Does neb yn eistedd ar eu bri yn Canllaw Online.  Mae gwybodaeth gwell yn arwain at ddewisiadau bywyd gwell yw mantra'r sefydliad ac mae'n rywbeth dwi'n teimlo'n gryf iawn am.  Hefyd, dwi'n 'control freak' creadigol sy'n hoffi siarad a sy'n gallu cadw'r peli yna yn yr awyr.  Pwy arall fyddai fy eisiau?    

Beth wnes i cyn Canllaw Online:
Ar ôl gorffen gradd mewn Dylunio Diwydiannol, roeddwn yn gweithio fel Rheolwr Cynnyrch ar gyfer cwmni losin newydd pan welodd ffrind hysbyseb am Rheolwr Cyhoeddiadau a Chynnwys gyda Canllaw Online.  Yn ddistaw bach, roeddwn wastad eisiau bod yn awdur ac roeddwn wedi dechrau ysgrifennu ffuglen ar gyfer pobl ifanc yn fy amser hamdden, gyda rhyw ychydig o lwyddiant.  Fe ymgeisiais amryw o gystadlaethau a roeddwn ar y rhestr fer ar gyfer cystadleuaeth WH Smith Raw Talent.  (Fe enillais gystadleuaeth ysgrifennu hwylus wedi ei drefnu gan y Sunday People, ond nid yw hynny yn rhywbeth i fostio amdani).  Fe geisiais am y swydd gyda Canllaw, ac ar ôl cyfweliad fe gefais y swydd - hwre!  Nawr dwi'n arwain yr Adran Cynnwys, Systemau & Chyfathrebu.

Fe weithiais hefyd rhan amser yn Tesco Upper-Boat rhwng Medi 2002 a Medi 2008, tra'n cwblhau fy Lefelau A, Foundation BTEC a fy ngradd. 

Beth dwi eisiau gwneud, ond heb wneud eto:  
Mae gen i lawer o bethau dwi eisiau gwneud - dysgu i ddawnsio tap, chwarae piano, siarad Eidaleg.mae'r rhestr yn parhau.  Ond, fy uchelgais mwyaf yw i gyhoeddi llyfr a gweld y llyfr dwi wedi sgwennu i bobl ifanc ac silff yn Waterstones (ar ôl curo Harry Potter 7 oddi ar frig y siartiau!!!).

Beth oeddwn i eisiau bod pan oeddwn i'n fach:
Yn gyfoethog!
Mewn gwirionedd, doedd dim llawer doeddwn ddim eisiau ei wneud!  Ar y dechrau roeddwn eisiau bod yn awdur, wedyn yn arddluniwr, wedyn yn bensaer, wedyn yn ddyluniwr graffig, wedyn yn gynlluniwr nwyddau ac wedyn yn ôl at awdur!  Mae'n ddoniol - pan roeddwn i'n fach roeddwn i eisiau sgwennu llyfrau i oedolion am droseddwyr a nawr dwi'n sgwennu llyfrau plant am estroniaid! 

 

 

 

 

 

Hoff fan gwyliau: 
Cwestiwn caled!  Rydw i'n hoffi cymaint o leoedd (ac mi rydw i yn hoffi teithio).  Mae arfordir Slofenia yn brydferth, ac mae Salzburg yn Awstria hefyd yn brydferth yn yr haf a'r gaeaf, ond mae'r Eidal yn sefyll allan - cefais fy syfrdanu gan Malcesine ar Lake Garda (ac mae'r bwyd mooooor dda!)

Hoff bryd o fwyd:
Unrhyw beth Eidalaidd.  Heblaw am hwnna; ffiled o eog mewn saws oren, sinsir a saws soy ar wely o spinach gyda asbaragws a moron bach.  Dwi'n gwneud un da iawn!

Hoff gymeriad cartwn: 
Batman - heb amheuaeth y cymeriad mwyaf cwl.  Mor fygythiol, ingol a thywyll - beth sydd ddim i'w hoffi???  Dwi hefyd yn hoff o Eric, y cafalîr anwraidd o Dungeons and Dragons - mor ddoniol!

Hoff albwm:
Use your illusion 2, gan Guns 'n' Roses.

Hoff artist cerddoriaeth:
Nawr, os bydda i ddim yn dweud Whitesnake, bydd rhai ffrindiau agos byth yn gadael i mi glywed diwedd y peth.  Os bydda i'n dweud Whitesnake, dwi'n gadael fy hun yn hollol agored i dynnu coes.  Beth i'w wneud, beth i'w wneud!  Dwi'n credu wna i chwarae'n saff a mynd am .Guns 'n' Roses.  Dyna ni - bydd neb yn chwerthin am fy mhen nawr!

Hoff lyfr: 
Mae hwn yn un anodd!  Dwi'n hoffi llyfrau'n fawr ac mae dewis un yn anodd dros ben.  Dwi'n hoffi straeon tylwyth teg Hans Christian Andersen a straeon byr Neil Gaiman.  Pan mae'n dod i lyfrau penodol, ymm - fersiwn Stephen King o The Stand, neu falle "To Kill a Mockingbird" gan Harper Lee neu "Lightening" gan Dean Koontz neu "LA Requiem" gan Robert Crais'.mae "Holes" gan Luis Sachar hefyd yn lyfr gwych, yn ogystal â "God is a Bullet" gan Boston Teran a "The Dark is Rising" gan Susan Cooper.  Dwi'n credu mae fy ffefryn yw "The Big Blind" gan Louise Werner oherwydd taw dyma'r stori mwyaf pleserus ac annisgwyl dwi wedi dod ar draws.

Hoff ffilm:
Blade.  Mor dda es i'w weld ddwywaith!  Dwi hefyd yn hoffi Hostile Hostages - y ffilm Nadolig gorau erioed!  Galla i ddim peidio â sôn am Predator chwaith, neu South Park the Movie.

Unrhyw ffobiâu rhyfedd?
Oes - rydw i'n casáu pethau sy'n anarferol o fawr!  Dwi'n ymwybodol fod hyn yn gwneud i mi swnio'n wallgo', ond mae gennai atgasedd tuag at lefiathanau a monolithau: nendyrau, llongau anferth, jymbo-jetiau, morfilod ayyb - maent yn mynd drwydda'i!  Gwallgo' neu beth!

Beth hoffwn rhoi mewn i Room 101: 
Pobl sydd ddim yn rhoi ei car i mewn i ger tan fod y goleuadau'n troi'n wyrdd - mae ambr yno am reswm!   

Mae'r farn yn y cyfweliad hwn yn perthyn i'r atebwr a nid ydynt o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn Canllaw Online.