|

Enw:
Mick Conroy
Teitl dy swydd:
Pennaeth Adran: Cyllid a Threfn Llywodraethol
e-bost:
mickconroy@canllaw-online.com
Rhif cyswllt:
07966 171569
Beth dwi'n gwneud yn Canllaw Online:
Dwi'n goruchwylio gwaith tîm o 3 hwylusydd Credu, gyda phob un yn ymweld â 112 Labdigi Credu ledled Cymru i gynnig cefnogaeth a chyfarwyddyd. Dwi hefyd yn gyfrifol am waith ymgynghorol gydag unrhyw brosiect ieuenctid sy'n dymuno sefydlu Gwasanaeth Gwybodaeth i bobl ifanc o dan Gynllun Canolfannau Info Canllaw Online. Dwi'n cyflwyno hyfforddiant Gwaith Gwybodaeth Ieuenctid i wasanaethau ieuenctid ac unrhyw bartneriaid sy'n ymuno â Chynllun Canolfannau Info ac mae hwn yn helpu nhw i weithio tuag at Marc Safon Canllaw Online sef rhywbeth rydym ni wedi sefydlu fel meincnod ar gyfer arferion da yn cyflwyno gwybodaeth i bobl ifanc. Dwi hefyd yn gyfrifol am wneud y te yn y swyddfa a fi yw'r 7fed dewis ar gyfer y tîm cyfieithu Cymraeg.
Pam mai fi yw'r person gorau ar gyfer y swydd yma:
Oherwydd dyna beth ddywedodd Bwrdd Canllaw!! Ond a dweud y gwir mae fy swydd wedi newid yn fawr ers i mi ddechrau yn 2000 ac mae ein prosiectau diweddar wedi cyflwyno technolegau newydd i waith gwybodaeth ieuenctid. Mae'r cynnydd yma yn y ffocws ar dechnoleg yn golygu taw falle nid fi yw'r person gorau ar gyfer y swydd!! Ond, dwi'n teimlo bod 20 mlynedd o brofiad o weithio wyneb yn wyneb gyda phobl ifanc yn y sector ieuenctid statudol a gwirfoddol yn golygu fy mod i wedi datblygu rhyw fath o reddf ynglyn â beth fydd yn, a ddim yn, gweithio gyda phobl ifanc ond rhaid i mi ddweud gyda mwy a mwy o gyfrifoldebau rheolaeth mae'r amser dwi'n gallu treulio gyda phobl ifanc yn gyfyng nawr yn anffodus. Ond os grafi dy fy nghroen yn ddigon caled, byddi di'n chwilio gweithiwr ieuenctid oddi tano yn ceisio dod allan! Falle dyna pam dwi wedi rhoi pwysau ymlaen!
Pam Canllaw Online a gwybodaeth i bobl ifanc:
Wel, i ddwyn llinell o Chesney Hawkes - "They are the ONE and ONLY!!" Nhw yw'r unig sefydliad sy'n gallu cyflwyno gwasanaethau gwybodaeth o ansawdd da i bobl ifanc a'r sawl sy'n gweithio gyda nhw. Rydw i wedi bod ynghlwm â'r cwmni ers 1997 yn ceisio ailsefydlu prosiect gwreiddiol Canllaw Online ffurfiwyd yn 1985. Roedd yn fraint i allu fod yn rhan o dîm cenedlaethol yn lobio Llywodraeth Cynulliad Cymru oedd newydd ei sefydlu ar y pryd.
Beth wnes i cyn Canllaw Online:
Dechreuais fel athro yn 1986 ar ôl gadael swydd 2 flynedd mewn coleg. Sylweddolais yn ddigon cyflym taw'r system addysg yw nid y lle i helpu'r bobl ifanc sydd angen y fwyaf o gefnogaeth. Yn 1989 symudais i'r gwasanaeth ieuenctid a sylweddolais bod gwaith ieuenctid da wedi'i gyfuno â gwasanaethau gwybodaeth ieuenctid da yn gallu cael gwir effaith ar gynnydd pobl ifanc. Yn 1996 symudais i mewn i'r sector gwirfoddol & helpu i sefydlu Siop Wybodaeth Penarth am y 3 mlynedd nesaf cyn symud i Canllaw Online i wynebu'r her o ddatblygu gwaith gwybodaeth ieuenctid ar lefel genedlaethol.
Beth dwi eisiau gwneud, ond heb wneud eto:
Gwneud te yn y swyddfa!!! Mae'n swnio'n ddwl ond dwi eisiau cael busnes yn gwerthu toesenni ar draethau (100% o gwsmeriaid hapus o'r diwedd!!!).
Ar lefel proffesiynol hoffwn sefydlu y tîm OFSTED cyntaf o bobl ifanc 16 mlwydd oed bydd yn arolygu ysgolion o safbwynt person ifanc.
Hefyd hoffwn chwarae i dîm pel-droed Lerpwl ond dim ond breuddwyd yw hwn.
Beth oeddwn i eisiau bod pan oeddwn i'n fach:
Yn fawr.
|
|
Hoff fan gwyliau:
Unrhyw le tu allan i Lerpwl ond mae dwi'n hoff o draeth Whitesands, Ty Ddewi, Sir Benfro.
Hoff bryd o fwyd:
Unrhyw beth sy'n dechrau gyda Tarten.
Hoff gymeriad cartwn:
Wily Coyote - jyst am ei ddyfalbarhad fel cymeriad yn ceisio dal yr aderyn. Fe hoffwn iddo dim ond unwaith gael ei ddwylo o amgylch gwddf Road Runner a dweud "ceisia ddweud "Beep Beep" nawr"!
Hoff albwm:
Sergeant Pepper - The Beatles (eitha' amlwg - sori!).
Hoff artist cerddoriaeth:
Un anodd! Rhwng The Beatles a Leonard Cohen a dwi'n mynd i ddewis Leonard am ei fod yn gwneud i mi deimlo'n hapus!
Hoff lyfr:
The Diceman gan Luke Rhinehart (dysgais am yr haprwydd o fywyd a ffawd...paid â'i ddarllen - bydd yn dy newid a byddi di eisiau byw fel roedd e'n byw!). Fe driais i unwaith ond diweddais i fyny ar wyliau yn Morecambe!!
Hoff ffilm:
On the Waterfront gyda Marlon Brando
Unrhyw ffobiâu rhyfedd?
Dwi ddim yn hoffi cyllyll a ffyrc gwlyb - dwi ddim yn gallu cyffwrdd nhw! O a'r doliau tsieni hynny sy'n edrych fel pobl bach.
Beth hoffwn rhoi mewn i Room 101:
Tlodi & Newyn (oherwydd yna byddai wedi ei ddileu), heblaw am hynny y Teasmaids hynny (maen nhw'n dy ddeffro awr cyn bod ti eisiau), peiriant gwneud bara (pwy sydd erioed wedi defnyddio un mwy nag unwaith?), ardaloedd VIP mewn clybiau nos sydd ddim yn cael unrhyw bobl enwog (beth yw'r pwynt!) ac yn olaf, os bod unrhyw le ar ôl hoffwn roi pob cath yn y bydysawd i mewn i Room 101.
Mae'r farn yn y cyfweliad hwn yn perthyn i'r atebwr a nid ydynt o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn Canllaw Online.
|