|

TERMAU
AC AMODAU - CANLLAW ONLINE CYF ("CANLLAW")
MAE HWN
YN DDOGFEN CYFREITHIOL PWYSIG – RHAID EI DDARLLEN
CYN TROI AT UNRHYW UN O WEFANNAU CANLLAW ONLINE
MAE’R TERMAU AC AMODAU YMA YN CAEL EI DEFNYDDIO AR GYFER
HOLL WEFANNAU CANLLAW ONLINE. FE FYDD GAN BOB GWEFAN EI DELERAU
AC AMODAU EI HUN HEFYD GYDA GWYBODAETH SY’N PERTHYN YN
UNION I’R GWEFAN HYN.
DOETH1520
INFOOUTLETS
CREDU
Mae eich mynediad i wefan Canllaw yn amodol ar yr amodau
a thelerau canlynol. Trwy fynd mewn i wefan Canllaw, rydych
yn
cytuno yn ddiamod i’r amodau a thelerau hyn. Os nad
ydych yn eu derbyn, a fyddech gystal â pheidio â cheisio
mynediad i wefan Canllaw.
1. Mae pob hawl,
gan gynnwys hawlfraint a hawl bas data, yng ngwefan Canllaw
a’i gynnwys, yn
eiddo neu’n drwyddedig
i Canllaw, neu fel arall yn cael ei ddefnyddio gan Canllaw
fel a ganiateir gan gyfraith berthnasol.
2. Mae’r holl
ddeunydd a gynhwysir ar Wefan Canllaw gan gynnwys testun,
delweddau, nodau masnachol, logos, nodau gwasanaeth
a tebygrwydd personol yn ddeunydd perchenogol neu hawlfraint
ac oni nodir yn wahanol ni ellir ei gopïo, ei atgynhyrchu,
ei lwytho i lawr, ei bostio, ei ddangos, ei drosglwyddo,
neu ei ddosbarthu ac ni ellir ymyrryd ag ef mewn unrhyw fodd,
heblaw
fe'ch caniateir i lwytho i lawr un copi o’r deunydd
a ddangosir ar Wefan Canllaw ar eich cyfrifiadur cartref
at ddefnydd
personol,anfasnachol yn unig, ar yr amod eich bod yn cadw
pob hawlfraint, cydnabyddiaeth a rhybuddion eraill a gynhwysir
ar y deunydd. Ni fyddwch yn addasu deunydd o’r fath
nac yn ei ddefnyddio at unrhyw ddiben arall.
3. Heblaw fel
y caniateir uchod, rydych yn ymrwymo i beidio â chopïo,
cadw mewn unrhyw gyfrwng (gan gynnwys mewn unrhyw wefan arall),
dosbarthu, trosglwyddo, ail-drosglwyddo, darlledu, addasu,
neu ddangos mewn man cyhoeddus unrhyw ran o Wefan Canllaw
heb ganiatâd ysgrifenedig blaenorol gan Canllaw neu
yn unol â Deddf
Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988 fel y'i diwygiwyd
gan Reoliadau Hawlfraint a Hawliau Cysylltiedig 1996.
4. Nid
yw Canllaw yn gwarantu y bydd yr elfennau a gynhwysir yn
y deunydd ar y wefan hon yn ddi-dor ac yn rhydd rhag gwallau,
y bydd diffygion yn cael eu cywiro, na fod y Wefan hon neu’r
gweinyddwr y darperir y wefan drwyddo yn rhydd o firwsau
neu fygau neu’n cynrychioli cywirdeb a'r gallu i ddibynnu
ar natur y deunyddiau.
5. Er y bydd Canllaw yn defnyddio
ymdrechion rhesymol i fonitro ac adolygu unrhyw drafodaethau,
sgyrsiau, postiadau, trosglwyddiadau
adeialog arall ar Wefan Canllaw o dro i dro ac i ddilyn yr
arfer gorau yn gyffredinol, nid yw Canllaw yn gallu monitro’r
holl ddeunydd yn barhaol ac ni fydd Canllaw yn gyfrifol nac
yn atebol ac y mae trwy hyn yn ymwrthod ar goedd, mor belled
ag y mae’r gyfraith yn caniatáu, â phob
cyfrifoldeb ac atebolrwydd beth bynnag y bo am unrhyw wall,
anghywirdeb, camgyflead, difenwad, esgeulustod, anwiredd,
anlladrwydd, cabledd, deunydd pornograffaidd, deunydd peryglus
neu unrhyw
ddeunydd arall a gynhwysir yn ei Wefan. Yn ogystal, nid yw
Canllaw yn adolygu nac yn monitro cynnwys unrhyw dudalennau
oddi ar y wefan nac unrhyw wefannau sy’n gysylltiedig â Gwefan
Canllaw ac nid yw ac ni fydd yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb
nac atebolrwydd am gynnwys y rhain.
6. Er bod Canllaw wedi
gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth a geir ar Wefan
Canllaw yn gywir ac yn cael ei
ddiweddaru,
ni ddylid trin y wybodaeth ar y Wefan fel datganiadau cyflawn
ac awdurdodol. Rydym wedi gwneud pob ymdrech i sicrhau bod
y wybodaeth yn cael ei diweddaru ond bwriedir i’r wybodaeth
gael ei chynnig fel canllaw yn unig. Os ydych yn dymuno gwybod
mwy am unrhyw destun a gynhwysir ar y Wefan rydym yn argymell
eich bod yn cysylltu gyda’r sefydliadau arbenigol a
restrir neu y cyfeirir atynt ar y Wefan neu’n ffonio
Canllaw’n
uniongyrchol a fydd yn gallu eich cyfeirio at y sefydliadau
arbenigol a fydd o bosib yn medru eich cynorthwyo.
7. Mae
Canllaw yn croesawu derbyn eich cywiriadau, sylwadau ac unrhyw
wybodaeth ychwanegol sydd gennych parthed ein gwefan.
Cysylltwch â Canllaw ar y cyfeiriad ebost canlynol:
webmaster@canllaw-online.com
8. Ni ellir gwneud unrhyw ran
o’r Wefan hon ar gael fel
rhan o Wefan arall heb ganiatâd ysgrifenedig Canllaw.
9. Ac eithrio fel y nodir ym mharagraff 2 uchod, er mwyn
cael awdurdod (y bydd awdurdod o’r fath yn cael ei
roi yn ôl
disgresiwn Canllaw yn unig) i atgynhyrchu unrhyw ddeunydd
neu gynnwys a geir ar y Wefan hon, cysylltwch â Canllaw
webmaster@canllaw-online.com Am fanylion pellach am y cysylltiadau
i Wefan Canllaw ac oddi
yno, cysylltwch â webmaster@canllaw-online.com
Fforymau
ac Ystafelloedd Sgwrsio
Ni chaniateir i chi:
1. bostio neu drosglwyddo y deunydd canlynol
ar Wefan Canllaw ar unrhyw adeg:
- deunydd anweddus, astrus,
aflednais, neu bornograffaidd;
- deunydd sy’n anghyfreithlon,
yn fygythiol, yn sarhaus, yn ddifriol neu sy’n aflonyddu;
- deunydd sy’n atgas neu’n annymunol
i bobl o hil neu genedl arall;
- deunydd sy’n
ddifenwol neu’n derfysglyd;
- deunydd sy’n
gableddus;
- llythyrau cadwyn, cynlluniau pyramid
neu hysbysebu na ofynnwyd amdano; neu
- unrhyw ddeunydd
sy’n torri ar hawliau person
arall megis hawlfraint neu hawliau moesol;
|
|
2. gwneud unrhyw beth sy’n cyfyngu
ar ddefnydd neu fwynhad defnyddwyr eraill Gwefan Canllaw;
3. defnyddio Gwefan Canllaw at unrhyw ddiben
anghyfreithlon;
4. tarfu ar Wefan Canllaw trwy, er enghraifft,
wneud i’r sgrîn sgrolio’n rhy gyflym i ddefnyddwyr
eraill teipio eu negeseuon, neu newid testun y drafodaeth heb
rybudd er mwyn atal llif y ddeialog (os yn berthnasol).
5. Mae Canllaw yn cadw’r hawl i derfynu
eich mynediad i’r Wefan yn syth ac mae’n bosib
y bydd yn cymryd camau cyfreithiol yn eich erbyn os ydych yn
torri’r rheolau ar gyfer ymddygiad ar-linell.
Dibyniaeth
Rydych yn cytuno i beidio â gweithredu neu ddibynnu
ar unrhyw wybodaeth neu ddeunydd a gynhwysir ar Wefan Canllaw,
sy’n cael ei darparu gan Canllaw ar gyfer eich diddordeb,
gwybodaeth a diddanwch ac arweiniad cyffredinol chi. Ni fydd
Canllaw yn atebol ac y mae trwy hyn yn ymwrthod, mor belled
ag y mae’r gyfraith yn caniatáu, ag unrhyw atebolrwydd
sy’n codi o’ch dibyniaeth chi ar wybodaeth o’r
fath o unrhyw natur boed yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol.
Hawliau a Dim Cyfrinachedd
Yn amodol ar delerau dogfen Polisi Preifatrwydd Canllaw Online
Cyf (sydd ar gael hefyd ar Wefan Canllaw), bydd unrhyw wybodaeth
neu ddata a drosglwyddwch neu a roddwch ar Wefan Canllaw yn
perthyn yn llwyr i Canllaw, ac fe all Canllaw ei defnyddio
at unrhyw ddiben gan gynnwys heb gyfyngiad, ei hatgynhyrchu,
ei datgelu i drydydd parti, ei darlledu, ei throsglwyddo, ei
dangos neu ryw ddiben arall fel a fyn Canllaw yn ôl ei
ddymuniad, ac mewn ystyriaeth am ganiatâd gan Canllaw
ichi gael mynediad i’w Wefan,ac am ystyriaethau da a
gwerthfawr eraill yr ydych trwy hyn yn cydnabod eu bod yn ddigonol,
rydych drwy hyn yn aseinio ar ffurf hawlfraint yn awr ac yn
y dyfodol bob hawl o unrhyw fath yn ac i'r cyfryw ddeunydd
drwy’r holl fyd am byth, gan gynnwys pob adnewyddiad
neu refersiwn o'r cyfryw hawliau.
Indemniad
Rydych yn cytuno i indemnio a chadw Canllaw wedi’i indemnio
rhag ac yn erbyn unrhyw a phob hawliad, iawndal, costau, treuliau
ac atebolrwydd sy’n codi mewn unrhyw fodd o’ch
mynediad i Wefan Canllaw a’ch defnydd ohono heblaw yn
unol â’r amodau a thelerau hyn.
Diwygiadau
Bydd Canllaw o bryd i’w gilydd yn ail-edrych ar yr amodau
a thelerau hyn ac o bosib yn eu diwygio ac rydych yn cytuno
i fod yn rhwym wrth ddiwygiadau o’r fath ac felly dylech
ymweld â’r dudalen hon o bryd i’w gilydd
i ddod yn gyfarwydd â newidiadau o’r fath.
Diweddaru
Nid yw Canllaw yn derbyn unrhyw rwymedigaeth i gynnal neu
ddiweddaru Gwefan Canllaw.
Cysylltiadau
Mae’r Cysylltiadau ar Wefan Canllaw wedi eu graddio
yn ôl cywirdeb y wybodaeth, diogelwch, dwyieithrwydd
a hygyrchedd. Fodd bynnag, er y bydd Canllaw yn gwneud pob
ymdrech resymol i sicrhau bod unrhyw wefannau eraill y ceir
cyswllt iddynt trwy Wefan Canllaw yn briodol, nid yw Canllaw
yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb o gwbl am gynnwys gwefannau o’r
fath neu unrhyw wefannau y cysylltir â hwy o ganlyniad
i gysylltiadau o Wefan Canllaw.
Cyffredinol
Os dyfernir bod unrhyw un neu ragor o’r Telerau ac Amodau
hyn yn anghyfreithlon, yn annilys neu'n ddi-rym oherwydd cyfreithiau
unrhyw wladwriaeth neu wlad lle y bwriedir iddynt fod yn weithredol,
yna i’r graddau hynny y byddant yn anghyfreithlon, yn
annilys neu'n ddi-rym cânt eu torri allan a’u dileu
o’r teleray ac amodau hyn a bydd gweddill yr amodau a’r
telerau yn parhau yn eu llawn grym ac yn parhau’n ymrwymiad.
Bydd yr Amodau a Thelerau hyn yn cael eu llywodraethu a’u
dehongli yn unol â chyfreithiau Lloegr a Chymru. Bydd
unrhyw ddadleuon sy’n codi o’r rhain yn destun
awdurdod llysoedd Lloegr a Chymru.
Os na dderbynnir yr Amodau a Thelerau hyn yn llawn ni chaniateir
i chi gael mynediad i gynnwys y wefan hon ac felly dylech roi’r
gorau i ddefnyddio’r wefan yn syth.
Polisi Preifatrwydd
Gweler y ddogfen polisi preifatrwydd sydd hefyd wedi ei chynnwys
ar wefan Canllaw am wybodaeth am ein polisïau ar ddiogelu
preifatrwydd pobl ifanc ar-linell.
Am unrhyw sylwadau ynglþn â gwefan Canllaw cysylltwch â webmaster@canllaw-online.com.
© Canllaw Online Cyf. 2001
|