datblygu a chefnogi gwasanaethau gwybodaeth i bobl ifanc
hafan ynglyn a canllaw online tim canllaw online gwerthoedd ac Egwyddorion Craidd swyddi mentrau eraill
cysyllta ni cysylltiadau telerau ac amodau polisi preifatrwydd English
 

 

Nodau Strategol Canllaw Online | Gwaith Partneriaeth | Mynegai Hysbysiaeth Canllaw Online

 


Nodau Strategol Canllaw Online:

Lluniwyd wyth nod strategol cyffredinol y sefydliad i alluogi Canllaw Online i gyflawni’r bwriadau a amlinellir yn y “Gwerthoedd ac Egwyddorion Craidd” –

1. Polisi a Phartneriaeth Strategol.
Nod Canllaw Online yw gweithio ar lefel polisi a strategaeth, gan lunio, cefnogi a datblygu gwasanaethau gwybodaeth i bobl ifanc yng Nghymru yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

2. Cyfathrebu a gwybodaeth
Nod Canllaw Online yw cyfathrebu a hysbysu pobl ifanc a darparwyr gwasanaethau gwybodaeth i bobl ifanc ledled Cymru.

3. Ymchwil
Nod Canllaw Online yw ymchwilio anghenion gwybodaeth pobl ifanc a darparwyr gwasanaethau gwybodaeth i bobl ifanc yn drylwyr ledled Cymru.

4. Ymgynghori
Nod Canllaw Online yw darparu gwasanaethau ymgynghori i bobl ifanc a darparwyr gwasanaethau gwybodaeth i bobl ifanc ledled Cymru.

5. Hyfforddiant
Nod Canllaw Online yw darparu hyfforddiant i bobl ifanc a darparwyr gwasanaethau gwybodaeth i bobl ifanc ledled Cymru.

6. Safonau Ansawdd
Nod Canllaw Online yw cefnogi a datblygu mesurau sicrhau ansawdd parthed gwasanaethau gwybodaeth i bobl ifanc ledled Cymru.

 

7. Ewropeaidd a Rhyngwladol
Nod Canllaw Online yw cefnogi cyfranogiad pobl ifanc a darparwyr gwasanaethau gwybodaeth i bobl ifanc a’u cynnwys o fewn cyfleoedd Ewropeaidd a rhyngwladol ehangach.

8. Busnes Newydd
Nod Canllaw Online yw archwilio a sicrhau cyfleoedd newydd ar gyfer darparu gwasanaethau gwybodaeth i bobl ifanc yng Nghymru.