|

Nod Canllaw Online yw dod â gwell dewisiadau bywyd i
bobl ifanc ledled Cymru drwy ddarparu mynediad i wasanaethau
gwybodaeth o ansawdd. Cyflawnir hyn drwy well gwasanaethau
cyflwyno gwybodaeth i hybu ymwybyddiaeth a datblygiad rhyng-ddiwylliannol,
a symudedd, cyfranogiad, mynegiant a chydraddoldeb ieuenctid.
Adlewyrchir a thanategir y gwerthoedd a’r egwyddorion
craidd hyn gan Ddatganiad Cwricwlwm Gwaith Ieuenctid ar gyfer
Cymru (1993), Siarter Wybodaeth Ieuenctid Ewrop, Papur Gwyn
Ewrop ar Ieuenctid (2001) a Chytundeb y Cenhedloedd Unedig
ar Hawliau’r Plentyn (a fabwysiadwyd yn y DU ym 1991),
sy’n cefnogi hawl pobl ifanc i wybodaeth.
Mae Canllaw Online yn ymrwymedig i ymgynghori â phobl
ifanc ledled Cymru a’u cynnwys ym mhob cyfnod o’r
broses gwybodaeth drwy gyfrwng cyrsiau preswyl rheolaidd, sesiynau
grwp ffocws, arolygon a gweithgareddau.
Sefydliad dwyieithog yw Canllaw Online, sy’n cynnig
gwybodaeth yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae’r Cynllun Iaith
Gymraeg gwirfoddol a fabwysiadwyd gan Canllaw Online wedi’i
gymeradwyo gan y Bwrdd Iaith Cymraeg yn unol â Deddf
Iaith Gymraeg (1993).
|
|
Gyda llywodraeth wedi’i datganoli, a chyfleoedd ariannu
strwythuredig, dwyieithrwydd a chymdeithas aml-ddiwylliannol,
mae Cymru yn fan lansio gwych ar gyfer mentrau cyflwyno gwybodaeth
a chyfleodd y mae ar bobl ifanc eu hangen er mwyn gwneud gwell
dewisiadau bywyd, a Canllaw Online yw y bobl i wireddu’r
cynlluniau hyn.
Os marw un Dyn yn anwybodus ac yntau â’r
gallu i feddu gwybodaeth, hyn a alwaf yn drychineb. Thomas
Carlyle
(1795 - 1881)
|