|
Dyma’r amser... Wyt ti’n chwilio am waith neu am newid cyfeiriad? Anodd yw cael dy droed ar ysgol cyflogaeth, felly cynllunia’n dda a chipia swydd dy freuddwydion. Gyda chynifer o gyfleoedd a chymorth wrth law, gosoda dy nod yn uchel a cher amdani. O ble bynnag rwyt ti’n dod ac i ble bynnag rwyt ti’n mynd… bydd yn fedrus a thafla dy hun i ddwylo rhagluniaeth.
Cyn iti gychwyn… Mae gen ti ddoniau, egni a brwdfrydedd. Mynna gael blas er mwyn cael gwybod beth ydy beth. Mae profiad gwaith yn gyfle gwych i gael gwybod ydy swydd yn apelio atat ti neu beidio! Fe gei di ailfeddwl wedyn neu fynd amdani. Mae’n dda hefyd gael dy droed i mewn, mewn ffordd a all arwain at swydd barhaol. Os wyt ti’n mynd i flwyddyn 12 mewn ysgol neu goleg, fel arfer fe fydd dy ysgol yn cynnig profiad gwaith i ti. Mae cyrsiau coleg a phrifysgol yn aml yn cynnig profiad gwaith. Neu, cysyllta â’r cwmni mae gen ti ddiddordeb ynddo yn uniongyrchol a holi sut i fynd o’i chwmpas, ond paid â disgwyl tâl. Fe all Gyrfa Cymru gynnig cyngor iti am gwmnïau sy’n cynnig profiad gwaith.
Cychwyn… Cer at www.activate.co.uk i weld sut i lunio CV yn yr adran ar yrfaoedd. Fe gei di lunio CV, gweld esiampl, defnyddio’r templed, argraffu copi a’i anfon o'r safle!
|