|
Mae iechyd yn deffro delweddau o foron, cawl seleri ac oriau yn y gampfa. Ond does dim angen i ti fod fel cwningen er mwyn edrych ar ôl dy hunan. Mae bod yn iach yn gwneud i ti deimlo’n iach, ond mae’n gwneud i ti deimlo ac edrych yn well hefyd! Datblyga sioncrwydd dy gorff a dy feddwl, ymarfera dy feddwl ac adnewydda dy lefelau o ynni a bywiogrwydd drwy fwyta’n iach. Rho her i ti dy hunan a gwthia dy hun hyd at yr eithaf. Cymer amser i ofalu amdanat dy hun a phaid â chymryd dy gorff yn ganiataol, dim ond un sy gen ti, felly… mwynha fe… ond gofala amdano! |