|
Rwyt ti’n rhydd i archwilio’r byd rwyt ti’n byw ynddo a phrofi’i ryfeddodau. Mae deall y byd rwyt ti’n byw ynddo yn caniatáu’r rhyddid i ddewis, ble hoffet ti weithio, ble i fynd ar dy wyliau, sut mae gwledydd yn gweithio a phrofi diwylliannau a chrefydd ar draws y byd. Teithio yw’r cyffro eithaf, chwilio am heriau newydd a lleoedd newydd i’w harchwilio, o ddyfnderoedd Affrica hyd at fynyddoedd Cymru.
Mae’n bryd i ti godi oddi ar y soffa ’na a rhoi profiadau newydd i ti dy hun a chrwydro’r ddaear. Bryd hynny’n unig y byddi di’n gallu gwerthfawrogi cyfoeth y byd rwyt ti’n byw ynddo mewn gwirionedd.
Rhai ffeithiau am y Byd, Ewrop, y DU a Chymru fach:
Y Byd: Poblogaeth: tua 6.5 biliwn Ieithoedd Mwyaf Cyffredin: Tsieinëeg (tua 873 miliwn), Hindi (India) (tua 490 miliwn), Saesneg (tua 341 miliwn), Sbaeneg (tua 350 miliwn) Mynydd Uchaf: Mynydd Everest, Mynyddoedd yr Himalaya = 8,848 metr (uwchlaw lefel y môr) Afon Hiraf: Y Nil yn Affrica sy’n 4,160 milltir o hyd Ffaith Ddiddorol: Mae rhywle rhwng 5,000 a 6,000 o wahanol ieithoedd yn cael eu siarad yn y byd heddiw, ac er bod mwy o bobl yn siarad Tsieinëeg, Saesneg ydy’r iaith ehangaf – ac yn cael ei siarad mewn rhyw 104 o wledydd.
Ewrop: Poblogaeth: tua 722.509 miliwn Iaith Fwyaf Cyffredin: Almaeneg Mynydd Uchaf: Mynydd Elbrus, Mynyddoedd y Cawcwsws, gororau Rwsia = 5,642 metr o uchder (uwchlaw lefel y môr) Afon Hiraf: Afon Volga yn Rwsia at 3,692 milltir o hyd Ffaith Ddiddorol: Mae gan yr Undeb Ewropeaidd 27 o aelod-wladwriaethau nawr wedi i Fwlgaria a Rwmania ymuno ar 1 Ionawr 2007
Y DU: Poblogaeth: tua 60.2 miliwn Iaith Fwyaf Cyffredin: Saesneg Mynydd Uchaf: Ben Nevis, y Cairngorms, yr Alban = 1344 metr (uwchlaw lefel y môr) Afon Hiraf: Afon Hafren sy tua 220 milltir o hyd Ffaith Ddiddorol: Mae ciosg ffôn yn Dunsop Bridge yn Sir Gaerhirfryn yn dangos canolbwynt daearyddol Prydain
Cymru: Poblogaeth: tua 2.95 miliwn Iaith Fwyaf Cyffredin: Saesneg (mae gan Gymraeg yr un statws) Mynydd Uchaf: Yr Wyddfa, Mynyddoedd Cambria = 1085 metr (uwchlaw lefel y môr) Afon Hiraf: Tywi sy’n 64 milltir o hyd Ffaith Ddiddorol: mae tua 611,000 o bobl yng Nghymru yn medru Cymraeg (tua 22%) |