Ar y stryd
mannau gwybodaeth
Mae ffynonellau gwybodaeth Canllaw Online yn gadael i chi, bobl
ifanc, gael gafael ar rwydwaith o wybodaeth ar draws Cymru a'r Byd
mewn fformat anffurfiol a hawdd ei ddefnyddio ar garreg eich drws.
Mynnwch daflenni, llyfrynnau a phosteri, cyngor, cefnogaeth a chyfarwyddyd
a mynediad i ystod o wasanaethau eraill a hyfforddiant ac ymgynghori
a llawer mwy - yn rhad ac am ddim.
Am gael help a chyngor?
Mae Canllaw Online yn cynnig Pecynnau Hyfforddi a chyrsiau i chi,
fel person ifanc, neu fel rhywun sy'n gweithio gyda phobl ifanc.
Fe allwn ni eich hyfforddi i ddysgu sgiliau newydd a fydd yn helpu
pobl ifanc yr un pryd.
Beth yw eich barn chi?
Dyma'ch cyfle i ddweud sut beth y dylai gwybodaeth i bobl ifanc
fod
fel person ifanc sy'n ei defnyddio, neu fel rhywun sy'n
ei darparu fel rhan o'ch gwaith. Beth hoffech chi ei weld a chlywed
amdano? Rhannwch eich syniadau gyda ni. Mae'n bryd i chi ddweud
eich dweud.
|