1520 adroddiad arbennig
  Masnach Deg
english
e-bostia ffrindiau
cysyllta a ni
dy ganllaw hanfodol i fywyd, y byd a phopeth dy ganllaw hanfodol i fywyd, y byd a phopeth Chwilio
HAFAN
addysg
cyflogaeth & hyfforddiant
yr amgylchedd
y byd, ewrop y du & chymru
teulu & pherthnasau
iechyd
tai
cyfraith & hawliau
arian
chwaraeon & hamdden
newyddion
adroddiad arbennig
 sgwrsio & fforymau
pleidlais
cystadleuaeth
gostyngiadau
canolfannau info
llinellau cymorth
beth sy' ymlaen
syrffio diogel
netiquette
ynglyn â ni
Islwythiadau
cysylltiadau
telerau ac amodau
polisi preifatrwydd
help
crewyd gan s8080
:: Netiquette
  Netiquette


Fel ym mhopeth arall, mae ’na reolau pan fyddi di’n syrffio. Efallai na fyddi di’n gallu gweld y person rwyt ti’n sgwrsio ag ef
ond cofio’i fod yno! Os wyt ti’n anghyfforddus yn siarad ag unrhyw un a gwrddi di, neu y clywi di oddi wrtho, gwna gopi caled a’i argraffu a’i ddangos i rywun.

  • Bydd yn gwrtais - Paid ag edrych fel hurtyn.
  • Bydd yn foesgar - Nid borg dideimlad o ofod seiber mohono.
  • PAID Â THEIPIO Â LLYTHRENNAU BRAS TRWY’R AMSER - Mae’n swnio fel petaet yn gweiddi. IAWN?
  • Dewisa dy eiriau - All neb weld dy wyneb, ac fe all y teimlad y tu ôl i’r geiriau gael ei gamddeall i awgrymu dy fod yn hy, yn ewn, yn gegog ac ati. Defnyddia dy deimladau i ddangos nad wyt ti ddim - iawn?
  • Gad y rhegfeydd - Mae pobl yn gwrando, ac mae modd terfynu dy gyfrif e-bost!
  • Y Gyfraith yw’r Gyfraith - Mae beth sy’n wir yn y byd real hefyd yn wir mewn gofod seiber.
  • Bydd yn syml - Anfona dy destun mewn modd syml, dim llythrennau bras, italig, tanlinellu ac ati. Gorau po symlaf. Does gan bawb yr un system â thi. Efallai mai’r cyfan a gân nhw yw llwyth o godau dryslyd sy wir yn gwylltu dyn!
  • Yn gryno - Paid ag ailadrodd dy hun, felly dilea’r pethau nad oes angen eu dweud, ’sdim angen gwastraffu geiriau.
  • Fflamie! - Paid ag anfon e-bostiau anfoesgar neu sarhaus. Os cei di dy fflamio, paid â fflamio ’nôl. Gad i rywun mewn awdurdod wybod. Mae’n gamddefnydd, a chofia mai’r gyfraith yw’r gyfraith
  • Pwy wyt ti? - Dwed wrth bobl pwy wyt ti, mae’n anghwrtais peidio. Os wyt ti’n defnyddio enw ar-lein - gwych - defnyddia hwnnw.
  • Mae dy olwg yn cyfri’ - Mae beth rwyt ti’n ei sgrifennu’n dangos sut un wyt ti. Mae gramadeg sâl a sillafu gwael yn edrych yn wael ac mae’r un rheolau’n dal wrth deipio a sgrifennu.
  • Goddefa’r newyddian - Rwyt ti’n arbenigo mewn gofod seiber, paid ag anghofio fod ‘na ambell newyddian yn ymdrechu ddysgu fel y bu rhaid i ti wneud.

CYNNAL E-BOST

  • Cymer olwg - Cymer olwg arno bob dydd.
  • Ateba’n gyflym - Technoleg - yw hyn - ac mae’n gyflym!
  • Dilea’r negesau - Cliria’r sbwriel - rhyddha’r gofod!Paid ag anfon gwybodaeth gyfrinachol - Gall eraill ei darllen! 
  • Paid â bod ar frys - Bydd mewn hwyl dda cyn i ti anfon negesau!
  • Parcha breifatrwydd pobl eraill - Does neb yn hoffi cleciwr.
  • Llanwa dy flwch - Dwed wrthyn nhw beth yw’r testun er mwyn iddyn nhw wybod beth rwyt ti’n siarad amdano.
  • Anwybydda lythyrau cadwyn - Paid â’u gyrru ymlaen. Dyma un o’r pethau mwya poenus ar y Blaned.

STAFELL SGWRSIO

  • Ystyria’r sefyllfa - Mynna wybod rhywbeth am y grwpiau sgwrsio cyn ateb.
  • Cadwa at y testun - Dyw Gwyddoniaeth Rocedi ddim yn berthnasol mewn gr p sy’n trafod canu pop.
  • Wrth ddyfynnu - Paid â malu geiriau, defnyddia’r rhai sy’n angenrheidiol.
  • Paid â bod yn bersonol - Osgoa anfon negesau at un person, cyfarcha’r gr p cyfan gan fod hynny’n ddisgwyliedig mewn grŵp trafod.
CANLLAW ONLINE
logia 'mlaen
cofrestra
Fy Nghanllaw