|
Mae’n bur debyg nad wyt ti hyd yn oed wedi meddwl
amdano, ond yn anffodus mae miliynau’n syrffio bob eiliad a dyw
pob un ddim yn annwyl a serchog. Ceisia d’amddiffyn dy hunan gyda’n
rheolau syml.
- Paid â bod yn bersonol - Bydd yn ofalus
os bydd angen i ti roi dy enw, dy gyfeiriad, dy rif ffôn neu unrhyw
ddarn arall o wybodaeth bersonol. Weithiau mae rhaid i ti wneud
os wyt ti’n siopa ar-lein ac ati, ond bydd yn synhwyrol, Os gofynnan
nhw am ragor o wybodaeth bersonol, cer i rywle arall, mae digon
o wefannau eraill i ddewis o’u plith.
- Cystadleuthau - Bydd yn ofalus os
byddi di’n cymryd rhan mewn cystadleuaeth ac ati, fe allet fod
yn arwyddo dy enw ar gyfer cael gwasanaethau nad wyt ti’n eu dymuno.
- Llwytho rhaglenni - Craffa ar y telerau
a’r amodau, efallai y bydd yn dweud ’am ddim’ ar y wefan ac fe
allen nhw ddweud fel arall!
- Difrïo - Os derbynni di unrhyw beth
difrïol, rho wybod.
- Cysylltiadau - Os cei di e-bost oddi
wrth rywun nad wyt yn ei adnabod, paid ag agor y cysylltiad neu
atodiad, fe allai fod yn firws cyfrifiadurol neu’n wefan anaddas.
- Ffotos - Paid ag anfon ffoto at neb,
heb fod yn hollol si r yngl n ag ef yn gyntaf, ac os llwythi di
ffoto, gofala ei fod yn dod o wefan rad a gymeradwywyd. Os derbynni
di ffoto o wefan arall fe allet fynd i helbul.
- Allweddair - Cadwa dy allweddair yn
gyfrinachol, paid â’i roi hyd yn oed i gyfeillion, neu fe all
pobl gael mynediad i dy holl ffeiliau cyfrinachol ag ef ac mae
‘na glustiau a llygaid ym mhobman.
- Parch - Mynna barch atat ti dy hun
a’i ddangos i eraill.
- Bydd yn hapus - Paid â rhoi mwy o
wybodaeth allan nag rwyt ti’n hapus i wneud. Os oes gan wefan
faes gorfodol sy raid ei lenwi, a dwyt ti dim yn teimlo fod hynny’n
angenrheidiol, cer i rywle arall. Cyn ei lenwi, defnyddia dy ben.
- Diogelwch cerdyn credyd - Wrth archebu
neu roi manylion dy gerdyn credyd gofala fod symbol diogelwch
cerdyn credyd ar y wefan. Mae’n edrych fel clo melyn ac mae’n
golygu y bydd dy fanylion yn ddiogel.
- Bancio ar-lein - Gofala fod y wefan
yn ddiogel.
|