1520 adroddiad arbennig
  Masnach Deg
english
e-bostia ffrindiau
cysyllta a ni
dy ganllaw hanfodol i fywyd, y byd a phopeth dy ganllaw hanfodol i fywyd, y byd a phopeth Chwilio
HAFAN
addysg
cyflogaeth & hyfforddiant
yr amgylchedd
y byd, ewrop y du & chymru
teulu & pherthnasau
iechyd
tai
cyfraith & hawliau
arian
chwaraeon & hamdden
newyddion
adroddiad arbennig
 sgwrsio & fforymau
pleidlais
cystadleuaeth
gostyngiadau
canolfannau info
llinellau cymorth
beth sy' ymlaen
syrffio diogel
netiquette
ynglyn â ni
Islwythiadau
cysylltiadau
telerau ac amodau
polisi preifatrwydd
help
crewyd gan s8080
Preifatrwydd
Preifatrwydd

Polisi Preifatrwydd Canllaw Online Cyf ("Canllaw")

Mathau o wybodaeth a gesglir gennym a sut rydym yn eu casglu

Weithiau, bydd Canllaw eisiau gwybodaeth bersonol pobl. Dim ond os yw hi'n wybodaeth hanfodol y byddwn ni'n casglu'r math yma o wybodaeth.Rydym ond yn defnyddio 'cookies' ar gyfer y Bleidlais.. Rydym yn defnyddio ffurflenni electronig a defnyddiwr Gwefan Canllaw ("ti") sydd i benderfynu a wyt ti am eu llenwi nhw.

Mathau o wybodaeth

Arolygon - nid ydym yn gofyn am wybodaeth bersonol ar gyfer arolygon. Er mwyn gwella'r wybodaeth yr ydym yn ei darparu a rhoi'r wybodaeth yr wyt ti'n dymuno ei chael rydym yn defnyddio'r wybodaeth hon. Wrth i wasanaethau Canllaw ehangu, bydd mwy o gyfleoedd i ehangu'r gwasanaethau a ddarperir i ti. O bryd i'w gilydd gall Canllaw ddarparu manylion am wasanaethau a chynnhyrtion eraill Canllaw a allai fod o ddiddordeb i ti a chynnig cyfle i ti edrych arnynt neu dderbyn gwybodaeth amdanynt. Gall Canllaw hefyd gynnig cyfle i ti gymryd rhan mewn arolygon a gynhelir gan Canllaw neu ei asiantau sy'n helpu ymchwil Canllaw i'r mathau o wasanaethau y mae Canllaw yn eu cynnig. Bydd Canllaw yn cadw cofnod o'r wybodaeth a ddarperir gennych. Sylwer mai dim ond o fewn Canllaw y bydd unrhyw wybodaeth y byddi ti'n ei rhoi i Canllaw yn cael ei defnyddio ac ni fydd yn cael ei rhoi i drydydd parti (ar wahân i fel y nodir yn y ddogfen hon) heb gael dy ganiatâd ti'n gyntaf. Yr unig bryd y gallwn wneud hynny yw os ydym yn cael ein gorfodi yn ôl y gyfraith i ddatgelu gwybodaeth.


Cystadlaethau - byddwn yn gofyn am dy enw a cyfeiriad er mwyn anfon y wobr atoch ti os enilli di. Os na roi di'r manylion hyn i ni, ni fyddwn yn gallu anfon y wobr ato ti. Byddwn yn gofyn i ti os wyt ti eisiau ragor o wybodaeth amdano ni neu'r cwmni sy'n rhedeg y gystadleuaeth. Os wyt ti, fe wnewn ni ddanfon dy fanylion i'r cwmni, os na, byddwn yn eu dileu yn llwyr oddi ar ein ffeiliau.

Eich sylwadau - os oes angen ateb i'ch sylw neu gwestiwn rhaid i ti gynnwys dy gyfeiriad e-bost neu ni fyddwn yn gwybod at bwy i anfon yr ymateb. Os wyt ti'n dymuno gwneud sylw ond heb angen ateb, nid oes rhaid i ti roi dy gyfeiriad e-bost. Os nad allwn ni ateb dy gwestiynau, byddwn yn eu trosglwyddo i rywun sy'n gallu, yn yr achos hwn dim ond beth oedd y cwestiwn byddwn ni'n rhoi gwybod iddynt a dim am y person a ofynnodd y cwestiwn. Dim ond i un o'n sefydliadau partner y byddwn ni'n trosglwyddo'r cwestiynau. Yn y rhan fwyaf o achosion byddant wedi arwyddo cytundeb gyda ni yn dweud y byddant yn gwneud eu gorau glas i ateb dy gwestiynau. Byddwn yn egluro pwy yw'r sefydliad partner perthnasol ym mhob adran o'r Wefan.


Sgyrsfeydd
- byddwn yn cynnal sgyrsfeydd a byddwn yn gwneud ymdrech resymol i fonitro eu cynnwys. Ni fydd y cymedrolydd yn sensro eich sylwadau ond ni fydd yn postio unrhyw sylwadau sy'n dramgwyddus. Byddwn yn gofyn i ti am lysenw fel y galli di sgwrsio heb roi dy enw. Tra'n defnyddio ein sgyrsfa cymera ofal i beidio â datgelu unrhyw wybodaeth bersonol er enghraifft dy enw, cyfeiriad, rhif ffôn, ysgol neu unrhyw wybodaeth arall a allai roi gwybod i rywun pwy wyt ti. Rydym yn dy atgoffi bod y sgyrsfeydd yn fforymau ar gyfer trafodaeth gyhoeddus a bydd unrhyw wybodaeth bersonol a roddwyd gennyt yn ystod y trafodaethau hyn ar gael ar lefel eang. Nid yw Canllaw yn gyfrifol am y cynnwys a bostiwyd gan ddefnyddwyr y gwasanaethau hyn.

Cylchlythyr e-bost - bydd angen i ni gael dy enw a chyfeiriad e-bost i anfon y cylchlythyr e-bost ato ti. Os nad wyt ti bellach eisiau derbyn y cylchlythyr hwn hysbysa'r webmaster@canllaw-online.com a byddwn yn dileu dy fanylion o'n ffeiliau yn llwyr.

Pleidlais - Rydym yn defnyddio cookies ar gyfer y bleidlais i sicrhau bod mai dim ond unwaith mae rhywun yn gallu pleidleisio. Efallai, os wyt ti'n defnyddio cyfrifidaur yn yr ysgol er enghraifft, fe fydd rhywun wedi defnyddio'r cyfrifiadur i bleidleisio yn barod, felli fyddi di ddim yn gallu.Os ydy hyn wedi digwydd fe alli di ofyn i'r person sy'n gyfrifol am y ganolfan i ddileu'r 'cookie'. Os mae na broblem gyda hyn fe elli di alw Canllaw Online ar 029 2088 7868.

Deunydd a lawrlwythir - ni chesglir unrhyw wybodaeth

E-bostia y dudalen hon at ffrind - nid ydym yn casglu unrhyw ddata drwy hyn.

Dy cyfeiriad IP sy'n cael ei gofnodi'n awtomatig gan weinydd gwe (webserver) Canllaw a fydd yn cael ei ddefnyddio'n unig i sylwi ar dyddiddordebau yng Ngwefan Canllaw.

Defnyddwyr o Dan 18 oed

Os wyt ti o dan 18 oed, sicrha dy fod yn cael caniatâd dy rhiant/gwarcheidwad ymlaen llaw pryd bynnag yr wyt yn darparu gwybodaeth bersonol i Wefan Canllaw. Nid oes hawl gan ddefnyddwyr sydd heb gael y caniatâd hwn i ddarparu gwybodaeth bersonol i ni.


Pwy sy'n casglu'r Gwybodaeth?

Mae www.canllaw-online.com a'r holl wybodaeth a gesglir yn cael eu rheoli gan dîm staff Canllaw a dim ond trwy gyfrinair y gellir cael mynediad i'r holl ffeiliau.

Sut defnyddir y wybodaeth bersonol?

Cesglir yr holl wybodaeth bersonol am reswm penodol a byddwn yn dy hysbysu beth yw hynny, neu mi fydd hi'n amlwg i ti beth fydd y pwrpas hwnnw. Byddwn yn gofyn i ti a wyt ti eisiau cadw dy enw ar ein rhestr bostio, os nad wyt ti eisiau cael rhagor o wybodaeth gennym ticia'r blwch a bydd dy fanylion yn cael eu dileu ar ôl i ni brosesu dy gwestiwn, cofnod cystadleuaeth ac ati.

Os byddwn yn gwneud unrhyw newidiadau sylweddol yn y ffordd yr ydym yn defnyddio dy wybodaeth bersonol byddwn yn rhoi gwybod i ti drwy bostio cyhoeddiad amlwg ar ein tudalennau.

Diogelwch Data

Rydym wedi cymryd camau priodol i gadw dy manylion yn ddiogel ac ni fyddwn yn datgelu unrhywbeth i drydydd parti heb dy ganiatâd.

Cysylltiadau i Wefannau eraill.

Mae Gwefan Canllaw yn cynnwys cysylltiadau i safleoedd eraill sydd heb unrhyw gysylltiad â Chanllaw. Nid yw'r datganiad preifatrwydd hwn yn gymwys i'r safleoedd hynny ac nid yw Canllaw yn gyfrifol am gynnwys ac arferion y Gwefannau hynny.

Eich data personol

Bydd Canllaw yn cadw dy wybodaeth bersonol ar systemau Canllaw tra byddi di'n defnyddio'r gwasanaeth yr wyt ti wedi gofyn amdano, ac yn ei dynnu i ffwrdd os bydd y pwrpas wedi'i ddiwallu, neu os nad wyt ti bellach yn dymuno parhau i fod ar y gofrestr fel defnyddiwr personoledig.

Mae gennyt hawl i ofyn am gopi o'r wybodaeth bersonol y mae Canllaw yn cadw amdanoch ti ac mae gennych hawl i gael mynediad i'r wybodaeth y mae Canllaw yn ei chadw amdanoch ti ac i newid y wybodaeth lle bo angen. Rwyt ti hefyd yn gallu ofyn i ni ddileu, newid neu ddiweddaru eich data ar unrhyw adeg. Mae Canllaw yn cadw'r hawl i godi tâl am geisiadau am wybodaeth.


Os oes gennych unrhyw sylwadau, cysylltwch â ni:-

Canllaw Online Cyf.
Suite 5, Yr Octagon
Llys Van
Parc Busnes Caerffili
Heol Van
Caerffili
CF83 3ED

029 2088 7868
webmaster@canllaw-online.com

Mae Canllaw yn cadw'r hawl, ar unrhyw adeg, i addasu, newid neu ddiweddaru'r polisi preifatrwydd hwn.

 

'Cookie' yw ffeil testun bach y gall gwefan ei gosod ar yriant caled eich cyfrifiadur er mwyn, er enghraifft, casglu gwybodaeth ynglþn â'ch gweithgareddau ar y safle neu ei gwneud hi'n bosibl i ti ddefnyddio 'basged siopa' ar-lein i gadw golwg ar yr eitemau yr wyt ti'n dymuno eu prynu. Mae'r cookie yn trosglwyddo'r wybodaeth hon yn ôl i gyfrifiadur y wefan a dim ond y cyfrifiadur hwn fel arfer sy'n gallu ei darllen. Nid yw'r rhan fwyaf o ddefnyddwyr yn gwybod bod 'cookies' yn cael eu gosod ar eu cyfrifiaduron wrth iddynt ymweld â gwefannau. Os wyt ti am wybod pryd mae hyn yn digwydd, neu os wyt am ei atal rhag digwydd, gallwch osod


 

 

CANLLAW ONLINE
logia 'mlaen
cofrestra
Fy Nghanllaw